Ed Miliband
Ystyriwch y sefyllfa hon. Mae’n fore dydd Gwener, 6 Mai. Yng Nghynulliad Cymru a Senedd yr Alban, mae’r Blaid Lafur wedi ennill mwyafrif tenau. Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi cipio grym mewn sawl cyngor allweddol yn Lloegr, gan gynnwys Birmingham a Sheffield.

Mae pethau’n ddu iawn ar y Democratiaid Rhyddfrydol – maen nhw wedi eu dinistrio bron yn llwyr yn y Cynulliad ac yn yr Alban. Maen nhw wedi colli sawl cyngor yn Lloegr. Ac, i rwbio halen yn y briw, maen nhw hefyd wedi colli’r bleidlais ar ddiwygio’r system bleidleisio.

Mae Ed Miliband yn ymddangos ar y teledu, ac yn cynnig iachawdwriaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n cynnig clymbleidio â nhw yng Nghymru a’r Alban, ac ar draws cynghorau sir Lloegr. Mae’n galw arnyn nhw i gefnu ar y Blaid Geidwadol, a Nick Clegg, oedd wedi eu harwain nhw i lawr yr hewl i golledigaeth. Eich clymblaid â’r Blaid Geidwadol yw’r unig reswm yr ydych chi wedi dioddef yr Armageddon etholiadol yma, meddai. Dyma gyfle i chi ymuno â’r blaid boblogaidd.

Mae’r dynion yn y siwtiau llwyd yn mynd i weld Nick Clegg a dweud wrtho fod ei amser ar ben. Tim Farron, un o’r ychydig Dems Rhydd i bleidleisio yn erbyn codi ffioedd dysgu, ac a oedd hefyd wedi ymgyrch o blaid newis y system bleidleisio ar yr un llwyfan ag Ed Miliband, yw’r ffefryn i’w olynu.

Mae’r glymblaid yn chwalu a’r Dems Rhydd a Llafur yn ffurfio clymblaid newydd. Mae’r Ceidwadwyr yn honni nad oes gan y glymblaid newydd fandad i lywodraethu dros y wlad. Mae’r Blaid Lafur yn cyfeirio at y polau piniwn sy’n dangos eu bod nhw 10 pwynt ar y blaen i’r Ceidwadwyr. Er mwyn profi hynny, mae Ed Miliband yn galw Etholiad Cyffredinol. Dan y system gyntaf heibio’r postyn yr oedd y Ceidwadwyr wedi ymgyrchu i’w achub, mae Llafur yn ennill mwyafrif o dros 100 o seddi.

OK, efallai mai dim ond ym mreuddwydion Ed Miliband a hunllefau David Cameron y mae’r senario yma yn bodoli. Ond os yw’r polau piniwn presennol yn gywir, fe fydd 5 Mai yn brawf mawr o ba mor benderfynol yw’r Democratiaid Rhyddfrydol o sicrhau fod y glymblaid â’r Ceidwadwyr yn llwyddiant.