Owain Schiavone sy’n gofyn beth mae’r rheolwr newydd, a’r cefnogwyr, wedi ei ddysg yn dilyn gêm Lloegr…

Wedi’r holl heip a gobaith, siom o’r eithaf oedd gêm gartref gyntaf Gary Speed fel rheolwr ar Gymru. Roedd yr hyder wedi dechrau cilio fore Iau gyda’r newyddion na fyddai Gareth Bale – chwaraewr gorau Uwch Gynghrair Lloegr yn ôl rheolwr y Saeson – yn ffit i chwarae. Wedi chwarter awr o’r gêm bnawn Sadwrn roedd pob gobaith wedi diflannu.

Er y siom, mae’r rheolwr newydd wedi dysgu digon o’r golled yn erbyn y Saeson mae’n siŵr. Dyma rai o’r pethau amlycaf.

1.    Tydi gwawdio anthem y gwrthwynebwyr ddim yn helpu. Er gwaetha’r demtasiwn i wawdio God Save the Queen, mae’n rhaid i’r cefnogwyr ddeall nad ydy hynny’n helpu’r tîm ar y cae. I’r gwrthwyneb a dweud y gwir, fe ddywedodd capten Lloegr, John Terry ar ôl y gêm bod clywed y cefnogwyr Cymreig yn bwio eu hanthem genedlaethol wedi sbarduno’r chwaraewyr mewn gwyn. Hawdd credu hynny hefyd wrth wylio eu perfformiad yn yr hanner cyntaf lle prin y cafodd Cymru’r bêl.

2.    Nid cefnwr rhyngwladol mo Danny Collins. Efallai ei fod yn chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair i’w glwb Stoke, ond fe brofodd y gêm ddydd Sadwrn nad yw Danny Collins yn ddigon da i chwarae fel cefnwr chwith ar y lefel rhyngwladol. Roedd ail gôl y Saeson yn llawer rhy hawdd, a Collins oedd yn bennaf ar fai am hynny wrth golli ei safle’n llwyr. Yn y gêm fodern mae cefnwyr da yn allweddol i’r tîm ac yn cynnig cymaint, os nad mwy, yn ymosodol ag y maen nhw’n amddiffynnol. Pob tro roedd Collins yn derbyn y bêl gyda gwagle o’i flaen, yn hytrach na chario’r bêl i’r gofod hwnnw i ddechrau ymosodiad roedd yn troi mewn a chwarae’r bêl nôl ar draws cae i Ashley Williams neu James Collins. Ni chafodd Chris Gunter ei gêm orau i Gymru ar yr ochr arall, ond o leiaf roedd yn trio helpu’n ymosodol. Efallai bod gan Collins rywbeth i’w gynnig fel aelod carfan yng nghanol yr amddiffyn, ond mae angen i Speed feddwl am opsiwn arall fel cefnwr chwith i Gymru. Efallai mai Toshack oedd yn iawn am hwn wedi’r cyfan!

3.    Mae Joe Ledley wedi gwneud camgymeriad yn symud i Celtic. Dwi ddim yn meddwl bod y chwaraewr canol cae wedi cael gyrfa ryngwladol dda hyd yn hyn beth bynnag, ond roedd yn siomedig iawn yn erbyn y Saeson. Roedd ei egni a gwaith caled yn effeithiol i Gaerdydd ar lefel y Bencampwriaeth, ac mae’r adroddiadau’n awgrymu fod hynny’n wir eleni yn Uwch Gynghrair yr Alban. Wrth i’w gytundeb gyda Chaerdydd ddirwyn i ben llynedd, roedd yn gyfle i Ledley symud i dîm ar lefel uwch ac er bod diddordeb gan dimau Uwch Gynghrair Lloegr, Celtic oedd ei ddewis gyda chyfle i chwarae yn Ewrop. Doedd dim siâp arno ddydd Sadwrn sy’n awgrymu bod diffyg natur gystadleuol prif Gynghrair yr Alban wedi effeithio ar ei gêm – wedi’r cyfan, mae’n gwestiwn a fyddai hyd yn oed Celtic a Rangers yn gystadleuol yn Uwch Gynghrair Lloegr heb sôn am y gweddill! O siarad â nifer o gefnogwyr eraill ar ôl y gêm, y teimlad oedd y byddai wedi bod yn well i Gymru petai Ledley wedi aros gyda Chaerdydd.

4.    Dylai David Vaughan fod yn dechrau yng nghanol cae. Mae’r Cymro Cymraeg o Abergele wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i’w glwb, Blackpool yn yr Uwch Gynghrair eleni. Efallai mai Charlie Adam sy’n cipio’r penawdau i dîm Ian Holloway, ond mae gan y cefnogwyr feddwl mawr o Vaughan, ac yn credu mai fo sy’n bennaf gyfrifol am wneud i’r tîm dicio. Er hynny, fe benderfynodd Speed i ddewis Ledley a dau chwaraewr o’r Bencampwriaeth o flaen Vaughan ddydd Sadwrn. Mae Andy King ac Andrew Crofts yn cael tymhorau da iawn gyda Chaerlŷr a Norwich yn y Bencampwriaeth, ond roedd Cymru angen rhywun o natur hunanfeddiannol Vaughan yn erbyn y Saeson. Daeth Vaughan i’r cae gyda 25 munud o’r gêm yn weddill ac fe ddangosodd yn y 25 munud hwnnw’n union pam y dylai fod ar y cae am y 90 cyfan. Roedd yn chwilio am y bêl trwy’r amser, wastad yn cefnogi ei gyd chwaraewyr, a ni ildiodd y meddiant unwaith er iddo’i phasio bron gymaint ag y gwnaeth King, Crofts a Ledley trwy’r gêm. Ar ben hynny fe ddangosodd ei fod yn gallu bod yn gystadleuol, yn enwedig gydag un dacl wych yn fuan ar ôl dod i’r cae. Fe allai Vaughan fod yn chwaraewr allweddol i Gymru, fel y mae i Blackpool gan wneud y gwaith caib a rhaw er mwyn rhyddhau creadigrwydd Ramsey, Bale a Bellamy.

5.    Mae angen gwella safon maes Stadiwm y Mileniwm. A ddylai gemau’r tîm pêl-droed gael eu chwarae ar Stadiwm y Mileniwn beth bynnag? Mae hon yn ddadl sy’n hollti barn fel rheol. Ar gyfer y gêm dydd Sadwrn, diwedd y gân yw’r geiniog ac er y diffyg awyrgylch ar brydiau dwi’n meddwl bod y penderfyniad yn un cywir gan y Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer y gêm arbennig yma. Oni bai bod Speed yn creu chwyldro dros nos a’n bod ni’n dechrau gweld yr un math o dorfeydd ag oedd yng nghyfnod Mark Hughes wrth y llyw, mae’n annhebygol y bydd llawer o gemau Cymru’n cael eu chwarae yn y Stadiwm yn y dyfodol agos. Os bydd, yna mae angen ceisio sicrhau bod safon y cae yn well. Byddai rhai yn dadlau bod safon y maes o fantais i Gymru, neu’n hytrach yn fwy o anfantais i Loegr, ond ddydd Sadwrn fe lwyddodd y Saeson i ymdopi’n well â’r amgylchiadau. Er bod Cymru’n honni mai’r cae oedd yn gyfrifol am lithriad James Collins wrth arwain at y gic o’r smotyn, ddylai Speed ddim defnyddio hynny fel esgus. Wedi dweud hynny, roedd nifer o chwaraewyr yn ei chael hi’n anodd, yn arbennig Aaron Ramsey efallai oedd yn cario’r fath ddisgwyliadau uchel.