Mae S4C wedi denu ei siâr o feirniadaeth dros y misoedd diwethaf, yn sgil ymadawiad y Prif Weithredwr Iona Jones, ffraeo ymysg yr Awdurdod ac ansicrwydd ynglŷn ag effaith toriadau Llywodraeth San Steffan.

Felly dyma gyfle i fod yn fwy cadarnhaol am ein sianel, a rhestru rhai o’r pethau gorau am S4C.

Rhif 10: Mae yn Gymraeg

Mae’n hawdd anghofio hyn wrth i’r ddadl ferwi am safon allbwn S4C. Fel yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’r sianel yn ynys o Gymraeg mewn môr o Saesneg.  Mae’n fwy na chyfrwng i’n difyrru ni yn unig – mae hi’n symbol o statws a chryfder yr iaith yng Nghymru.

Rhif 9: Pobol y Cwm

Dyw opera sebon hynaf y BBC ddim at ddant pawb. Dydi o ddim mor ddoniol a Coronation Street, ac yn llai beiddgar na EastEnders. Ond mae Pobol y Cwm gystal ag unrhyw opera sebon Seasneg ac mae ei ffaeleddau yn rhai y mae yn ei rhannu â phob rhaglen arall o’r un fformat. Camp Pobol y Cwm yw ei fod yn dal i ddenu cynulleidfaoedd mwyaf S4C, dros 35 mlynedd ers dechrau, ac mae hynny’n rywbeth i’w ganmol.

Rhif 8: Newyddion

Mae gan raglen newyddion S4C orchwyl pwysicach na rhoi newyddion i bobol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma un o’r unig lefydd y bydd y rhan fwyaf yn cael eu newyddion am Gymru, hefyd. Heb ffynhonellau newyddion o safon all gwleidyddiaeth datganoledig Cymru ddim gweithredu ac felly mae rhaglen fel hyn ar y teledu yn hanfodol.

Rhif 7: C’mon Midffild

Mae’n biti braidd bod rhaid cyfeirio yn ôl at ddiwedd yr 80au er mwyn dod o hyd i raglen gomedi gwerth sôn amdano. Serch hynny mae C’mon Midffild yn fwy na rhaglen gomedi dda – mae’n glasur, ac yn wahanol i nifer o’r rhaglenni comedi arall sy’n bethyca fformat rhaglenni Saesneg (neu sydd wedi eu hysgrifennu yn y Saesneg yn y lle cyntaf cyn cael eu cyfieithu) mae wedi ei gwreiddio yn gyfan gwbwl yn ei chymuned.

Rhif 6: Rhaglenni Gwleidyddol

Efallai bod pobol sy’n siarad Cymraeg yn naturiol yn fwy gwleidyddol na siaradwyr Seasneg, dwn i ddim. Ond mae rhywun yn teimlo fod S4C yn croesawu’r anorac gwleidyddol gyda dwylo agored tra bod y sianeli Saesneg yn eu gwthio i’r ymylon. Pawb a’i Farn, CF99, y Dydd yn y Cynulliad… mae yna gyfoeth o drafod sy’n rhagori ar yr arlwy Seasneg o Gymru.

Rhif 5: Chwaraeon

Does gen i ddim Sky, a dw i ddim yn mynd i dalu drwy fy nhrwyn i’w gael o chwaith. Tra bod S4C yn dal i ddangos gemau o’r Gynghrair Magners ac ambell gêm o’r Bencampwriaeth, fe fydda’ i’n gwylio S4C. Does dim gwadu ei fod yn denu pobol newydd i wylio’r sianel… dw i’n gwylio BBC Alba yn weddol aml er mwyn cadw golwg ar y rygbi. Tha mi airson Gàidhlig ionnsachadh.

Rhif 4: Cyw

Pwy sydd angen rywun i warchod y plant pan mae Cyw ar gael? Neu yn fwy penodol, Rapsgaliwn – rapiwr gorau’r byd, mae popeth mae’n ei ddweud yn odli o hyd. Dyma’r cymeriad plant orau ers Sali Mali, Sam Tân, a Super Ted. Synwn i ddim petai Cyw yn gyfrifol am ddysgu’r iaith i filoedd o blant dan chwech.

Rhif 3: Dramau

Dros y blynyddoedd diwethaf mae S4C wedi mynd yn hen lawiau ar greu dramâu o safon i’w gwylio bob nos Sul. Rhwng Con Passionate, Teulu, Y Pris, Pen Talar ac, y penwythnos diwethaf, Alys, mae yna rywbeth gwerth chweil ymlaen o hyd. Dydyn nhw ddim bob tro at ddant pawb, a rydw i’n pryderu y bydd Alys yn disgyn i lawr twll llygoden gan adael hanner y gynulleidfa ar ei hol, ond mae’r rhaglenni wastad yn uchelgeisiol, yn wahanol ac yn ddifyr.

Rhif 2: Cymru

Mae Cymru yn wlad prydferth a diddorol ac mae S4C wedi dechrau cymryd mantais llawn o hynny yn ddiweddar. Gyda chyn lleied o raglenni am Gymru (tu hwnt i ambell un am fyd natur) yn Saesneg mae ganddyn nhw rwydd hynt i gloddio pob cnepyn o aur o’r tir o’n cwmpas. Mae Bro wedi busnesa a’r ardaloedd penodol, y Fenai wedi canolbwyntio ar ddangos hyfrydwch un ardal penodol, a 100 Lle i’w Gweld Cyn Marw yn gwneud beth mae’n ei ddweud ar y tin.

Ond y brenin ymysg y rhaglenni hyn ydi Straeon Tafarn Dewi Pws, sydd wedi llwyddo i fod yn hynod ddiddorol, yn hynod ddoniol, ac yn hynod addysgiadol yr un pryd.

Ac os ydyn ni’n colli diddordeb yng Nghymru mae yna gyfle i ddilyn Iolo i ganol yr Indiaid Cochion, neu i hwylio i lawr y Mississippi gyda Cerys Matthews.

Rhif 1: Digwyddiadau

Yr Eisteddfod Genedlaethol… y Sioe Brenhinol… Eisteddfod yr Urdd… y Ffair Aeaf… Eisteddfod Ffermwyr Ifanc… yn syml, unrhyw sioe ble mae’n bosib dweud ‘dw i’n nabod hwnna yn y cefn’, ‘oedd e’n yr ysgol gyda fi’, a ‘dwi’n siwr bod hanner y cor pensiynwyr dan 60 oed…’ Ambell wythnos bob blwyddyn mae S4C yn rhoi’r gorau i greu rhaglenni i’n difyrru ac yn troi’r camerâu i’n cyfeiriad ni. Mae’r sioeau yn llawer gwell na’r X Factor, achos rydyn ni’n nabod hanner y bobol sydd ar y llwyfan.