Iaics. Mae wedi bod yn ddiwrnod a hanner, a dyw hi ddim hyd yn oed yn bedwar o’r gloch eto. Rwy newydd ddod nôl at fy nesg o wrando ar y ddadl yn y siambr ar y mesur iaith. Mae’r trafodaethau’n parhau wrth gwrs -am o leiaf dwy awr arall o bosibl er efallai ddim, maen nhw’n rhuthro trwy bethau -ond y rhan fwyaf dadleuol lle’r oedd y Llywodraeth ar dir peryglus fel petai oedd pwnc trafod di-ddiwedd y blog hwn. Dim gwobrau am ddyfalu -statws swyddogol i’r Gymraeg.
Fe fydd Alun Ffred Jones yn cysgu’n dawel heno, mi dybiaf. Ymataliodd Bethan Jenkins rhag symud ei gwelliant, gwelliant 71 gan ddweud yn raslon ei bod yn derbyn ac yn ddiolchgar am welliant y Gweinidog, gwelliant 72. Ymdrechodd Jenny Randerson a Paul Davies ymdrech deg i roi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg gyda gwelliant 51 ond pleidleisiodd aelodau’r Llywodraeth yn ei erbyn. Doedd dim dewis gan y gwrthbleidiau wedyn ond caniatau i welliant 72 gael ei basio’n ddi-wrthwynebiad. Felly ydy, mae’r ddadl ar ben.
O, na dyw hi ddim (mae’n dymor panto, maddeuwch i fi). Cadarnhaodd Bethan Jenkins, wrth ildio i welliant y llywodraeth ar statws yr iaith, y byddai hi hefyd yn ildio o ran y gwelliannau gynigiodd hi ar hawliau. Mae hi’n derbyn addewid y Gweinidog os na fydd y mesur fel y mae yn ddigonol i warchod buddiannau’r unigolyn lle mae hawliau’r Gymraeg yn y cwestiwn y byddan nhw’n ail-edrych ar y sefyllfa ac yn deddfu eto. Ac wele, yn ddi-ymdroi dyma ddatganiad gan Gymdeithas yr Iaith yn dweud bod y frwydr ar hawliau i barhau.
Tra’n croesawu’r datganiad o statws ac yn croesawu y bydd y mesur yn rhoi’r hawl i unigolion apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n cyfateb i hawl cyrff a chwmniau i apelio yn erbyn safon a osodir arnynt i ddarparu gwasanaeth Cymraeg, maen nhw eisiau mwy.
“Ein bwriad fel ymgyrchwyr yw galw am ddeddfwriaeth newydd yn y Cynulliad nesaf a fydd yn grymuso dinasyddion drwy sicrhau hawliau i bobl weld, clywed, dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau, ledled Cymru.”