Ar ddiwedd diwrnod hir a phrysur, dyma rywbeth bach i’ch difyrru -cartwnau Mumph o ennillwyr gwobrau gwleidydd y Flwyddyn gafodd eu gwobrwyo heno yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Ces i’r fraint o fod ar banel y beirniaid eleni, gyda chyn brif weithredwr Plaid Cymru, Dafydd Trystan, Annabel Harle o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Llafur, cyn gyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig, Leigh Jeffes, ymgyrchydd gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, Alison Goldsworthy, golygydd gwleidyddol y Western Mail Tomos Livingstone, golygydd rhaglenni gwleidyddol ITV Nick Powell a golygydd y Wales Yearbook Dr Denis Balsom.
Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr yn arbennig Jocelyn Davies, Gwleidydd y Flwyddyn 2010. Yn amlwg, ei llwyddiant yn cael y Gorchymyn Tai i’w wely yn wyneb gwrthwynebiad chwyrn o San Steffan oedd yn gyfrifol am ei dewis ac wrth gwrs am lunio’r mesur arfaethedig sy’n gwneud ei daith trwy’r pwyllgorau craffu nawr.
Andrew Davies, Aelod Cynulliad y Flwyddyn -am ei waith craffu ar y pwyllgor cyllid wedi’i ymddeoliad o feinciau’r Llywodraeth:
David Davies, Aelod Seneddol y Flwyddyn am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, y Ceidwadwr cyntaf i gael y swydd. Rwy wedi canmol y ffordd mae’n cadeirio ar y blog hwn yn y gorffennol.
Elfyn Llwyd AS Ymgyrchydd y Flwyddyn am ei waith yn dwyn sefyllfa cyn-filwyr i sylw’r cyhoedd yn ddi-flino.
Owen Smith AS, Aelod i wylio. Dyma’r cyntaf o’r criw newydd ar feinciau Llafur i gyrraedd y cabinet cysgodol fel dirprwy lefarydd ar Gymru.
Cynghorydd Hugh Evans, Gwleidydd Lleol y Flwyddyn, am ei waith yn adfer Dinbych: