Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi na fydden nhw’n penodi Prif Weithredwr newydd i’r sianel am y tro.
Ar ôl ymddiswyddo heddiw datgelodd John Walter Jones bod Prif Weithredwr tros dro’s sianel, Arwel Ellis Owen, wedi cael estyniad o chwe mis.
Mae o wedi bod yn y swydd ers ymadawiad y cyn brif weithredwr Iona Jones ym mis Gorffenaf.
Roedd y sianel wedi hybysebu’r swydd fis diwethaf ac roedd y dyddiad cau ar 26 Tachwedd.
Heno cyhoeddodd Awdurdod S4C eu bod nhw wedi penderfynu gohirio penodi Prif Weithredwr parhaol i’r Sianel tan fod Cadeirydd newydd i’r Awdurdod yn cael ei benodi.
Yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan fydd yn gwneud y penodiad hennw. Bydd Rheon Tomos yn gyfrifol am arwain yr Awdurdod, fel Is-Gadeirydd, am y tro.
“O dan yr amgylchiadau, daeth yr Awdurdod i’r casgliad na fyddai’n addas apwyntio Prif Weithredwr parhaol ar hyn o bryd,” meddai llefarydd.
“Mae’r berthynas rhwng y Cadeirydd, yr Awdurdod a’r Prif Weithredwr yn un hanfodol ac rydym o’r farn na fyddai’n addas parhau i chwilio am Brif Weithredwr tan fod gan yr Awdurdod Gadeirydd newydd.”