Ydych chi’n siomedig bod Lloegr wedi colli’r cyfle i gynnal Cwpan Bêl-droed y Byd yn 2018? Dyma 10 rheswm i fod â gwen ar eich gwyneb.
10: Dyw hi ond yn deg
Roedd sawl sylwebydd yn y cyfryngau yn cwyno nad oedd Lloegr, ‘Cartref Pêl-droed’, wedi cael y cyfle i gynnal y gystadleuaeth ers y 60au. Wel, dyw Rwsia erioed wedi cael y cyfle i gynnal y gystadleuaeth, na’r Dwyrain Canol cyfan chwaith. Does dim pwynt ceisio ehangu’r gêm mewn gwlad ble mae hi eisoes yn hynod boblogaidd.
9: Mae yna obaith i Gymru
Mae Rwsia yn ddewis eithaf synhwyrol i gynnal y gemau. Ond Qatar? Mae’r wlad hanner maint Cymru, a gyda hanner y boblogaeth. Ac maen nhw’n rhif 113 yn rhestr timau gorau’r byd, dau safle y tu ôl i Gymru. Dyna syniad da – ar ôl llwyddiant Cwpan Ryder, beth am gynnal Cwpan y Byd yng Nghymru? R’yn ni’n addo na wneith y Byd ar Bedwar gynnal ymchwiliad Panorama-aidd i lygredd o fewn FIFA.
8: Cyfreithiau bisâr Qatar
Mae yn erbyn y gyfraith bod yn feddw, neu arddangos unrhyw alcohol yn gyhoeddus yn Qatar. Bydd rhaid iddyn nhw addasu un o’r stadiwms yn garchar ar gyfer yr holl gefnogwyr fydd yn cael eu harestio, te. Yn Rwsia, i’r gwrthwyneb yn llwyr, mae yna ddigon o alcohol chep i biclo afu pob un o gefnogwyr Lloegr.
7: Buddugoliaeth i’r wasg Brydeinig
Mae rhai yn beio’r BBC a’r Sunday Times am ddieithrio Fifa gyda’u hymchwiliadau. Ond a ydan ni wir eisiau i Brydain fynd i gytundeb costus wyth mlynedd gyda ffederasiwn sydd â chymaint i’w guddio?
6: Y golwg ar wyneb y Tywysog William
Bydd angen cwtsh arno gan Kate Middleton. Fydd Sepp Blatter ddim yn cael gwahoddiad i’r briodas mae’n siŵr.
5: Mae Lloegr wedi cael y Gemau Olympaidd a Chwpan Rygbi’r Byd yn barod
Mae cynnal tri o ddigwyddiadau chwaraeon mwya’r byd o fewn yr un degawd braidd yn farus. Fe fyddan nhw’n rhedeg allan o syniadau ar gyfer y seremoni agoriadol erbyn y diwedd.
Ac yn wahanol i’r ddwy gystadleuaeth arall doedd eu cynnig ar gyfer Cwpan y Byd 2018 ddim yn cynnwys cynnal gemau yn Stadiwm y Mileniwm. Bah!
4: Fe allai fod yn fwrn ariannol ar Gymru
Mae Cymru’n colli bron £100 miliwn drwy’r Fformiwla Barnett am nad yw’n cael ei siâr o arian gwario’r Gemau Olympaidd yn Llundain. Serch hynny mae llai nag 1% o’r arian sy’n cael ei wario ar y gwaith adeiladu ar gyfer y Gemau Olympaidd wedi dod i Gymru.
3: Byddai Lloegr yn meddiannu Cymru am haf cyfan
Mae yna ddigon o ddryswch ynglŷn â pha wlad ydan ni ynddo pan mae Lloegr yn chwarae yng Nghwpan y Byd – fflagiau San Sior ym mhobman, y cyfryngau yn galw ar Gymru i gefnogi ‘ein hogiau ni’. Dychmygwch hynny, ond deg gwaith yn waeth.
2: Dim ond cwyno byddai pawb yn y diwedd
Ers i ewfforia ennill y Gemau Olympaidd ddod i ben, yr oll ydan ni wedi ei glywed ydi cwyno am gost y gemau, y mascot, cynllun y stadiwm… Rydan ni’n bobol ddiflas a parod i gwyno ym Mhrydain, a dim ond cwyno byddwn ni pe bai Cwpan y Byd Pêl-droed ar ei ffordd yma hefyd.
1: Mae yna beryg y byddai Lloegr yn ennill
1966 and all that.