Rwy’n hoff o ymweliadau Eleanor Burnham â fy swyddfa i. Mae hi wastad yn chwyrlio i fewn mor gyflym ag y mae hi’n chwyrlio allan ond tra’u bod hi gyda ni mae wastad rhyw stori ganddi am safon trenau rhwng Wrecsam a Chaerdydd, ei chanu operatig dihafal neu rhyw saga wych. Rwy yr un mor hoff o ymweliadau David Melding, sy’n llawn athroniaeth fel y mae Eleanor yn llawn trenau. Mae yna bosibilrwydd cryf na fydd yr ymweliadau yma’n digwydd wedi Mai 2011.

Mae’r tebygrwydd o ymweliad gan Eleanor fel AC yn isel tu hwnt. Fel sy’n wybyddus i ni oll, mae hi wedi cael yr ail safle ar restr ranbarthol y Democratiaid Rhyddfrydol yn y gogledd. Digon posibl y bydd ymweliadau Aled Roberts yr un mor ddifyr â rhai Eleanor ond efallai na fyddan nhw’n digwydd chwaith. Na, nid achos na fydd Aled eisiau taro mewn (pwy na fyddai eisiau taro mewn?!!) ond na fydd e chwaith yn cael ei ethol. 15,274 o bleidleisiau, neu 7.8% o’r bleidlais gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol yng ngogledd Cymru yn 2007. Ddim rhy bell tu ôl iddyn nhw’r oedd y BNP gyda 9,986 ac UKIP ddim llawer pellach eto gyda 8,015. Gyda’i gilydd, roedd ganddyn nhw fwy o bleidlais na’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn hyn o beth, dyw arolwg barn diweddara ITV ddim yn argoeli’n dda iddyn nhw. Dim ond 9% o’r 1,012 holwyd ddywedodd y bydden nhw’n pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol fel ymgeiswyr rhanbarth a dim ond 5% o’r 210 holwyd yng Ngogledd Cymru sy’n bwriadu cynnig eu pleidlais iddyn nhw. Mae’n argoeli’n dalcen caled i hyd yn oed Aled Roberts gymeryd ei le ar y meinciau melyn ym Mae Caerdydd, heb sôn am Eleanor B.

Wedyn David Melding. Sefyllfa ryfedd iawn, iawn sydd ganddo fe. Mae wedi ei ddisodli’n ddiseremoni o frig rhestr ei blaid gan Andrew RT Davies (Swop -RT oedd arfer bod yn #2). Er mwyn i Melding ennill ei le yn y Cynulliad mae angen iddo fe sicrhau nad yw Angela Jones-Evans yn cipio’r Fro oddi wrth Jane Hutt. Os yw e’n dymuno iddi hi gael ei chyfle yn y Cynulliad yna mae angen iddo fe obeithio y bydd Julie Morgan yn ennill Gogledd Caerdydd oddi wrth Jonathan Morgan sy’n AC ers 1999 hefyd (dechreuodd e ar y rhestr rhanbarth cyn ennill Gogledd Caerdydd oddi wrth Lafur yn 2007). Achos os yw’r Ceidwadwyr yn ennill mwy o seddi etholaethol yn rhanbarth Canol De Cymru, fydd dim lle i #2 y rhestr. Cymhleth? Peidiwch â sôn.

Dyw Llafur ddim wir yn dod mewn iddi lle mae rhestrau rhanbarthol yn y cwestiwn -maen nhw’n ennill cymaint o seddi etholaethol fel mai cyfyngedig yw eu cynrychrychiolaeth ranbarthol nhw ag eithrio yn y canolbarth. Mae un newydd da o du rhestrau rhanbarthol Plaid Cymru os ydych chi’n credu mewn cynrychiolaeth gyfartal o ran y rhyw. O’r tair rhestr rhanbarthol yn y de, y menywod sydd ar frig y rhestrau a hynny heb fod angen mecanwaith penodol i’w gwthio nhw yno. Bethan Jenkins aeth â hi’n anrhydeddus yng Ngorllewin De Cymru, Leanne Wood yr un modd yng Nghanol De Cymru ac hefyd Jocelyn Davies yn Nwyrain De Cymru.