Wrth ochr y cae ym Mharc y Scarlets, yng nghysgod hyfforddwyr y tîm cartre’ a’r Gweilch adeg y gêm rhwng y ddau ranbarth, roedd un ymwelydd annisgwyl.

Papur a phensil oedd yn ei llaw, ond nid tactegau’r gêm oedd yn cael eu nodi ar y papur. Roedd un o arlunwyr amlycaf Cymru yno i gofnodi gwahanol agweddau o’r chwarae ar y cae ac i baratoi darluniau ar gyfer ei harddangosfa nesaf.

“Roedd yn brofiad arbennig bod yna i fod ar yr ystlys yn cerdded o gwmpas ac yn astudio gwahanol agweddau o’r chwarae,” meddai Valerie Ganz, o Abertawe, sy’n fwy adnabyddus am ei gwaith yn portreadu’r diwydiant glo.

“Mae’n rhaid i fi fod yno i weld beth alla’ i ddehongli o’r gêm ar gyfer ei roi ar gynfas. Fe wnes i ddewis y gêm orau bosib ar gyfer gwneud y gwaith roedd angen ei wneud. Roedd yr awyrgylch yn anhygoel a digon o densiwn a drama!”

Mae gan Valerie Ganz arddangosfa yn Oriel Attic, Abertawe gyda rhan sylweddol o’r arddangosfa yn gyfres o baentiadau yn ymwneud â rygbi.

Fe fydd y lluniau o Barc y Scarlets yn rhan o’i harddangosfa fawr olaf. Fe fydd yn ddiwedd pennod yn hanes celf diweddar Cymru, er nad yw’n bwriadu rhoi’r gorau i baentio.

“Yn sicr, na. Mae’n bosib y bydda’ i’n fwy prysur nag erioed o’r blaen. Ond mae gen i ysgwydd dost ac mae gweithio mor galed i gwrdd â gofynion arddangosfa yn drech na fi nawr. Does gen i ddim bwriad gweithio i deadlines fel ’na mwyach.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 28 Hydref