Adran Ddiwylliant San Steffan fydd yn pennu cyllideb S4C o hyn ymlaen, mae’r cyswllt â chwyddiant yn cael ei dorri. Mae hyn er mwyn “gwella effeithlonrwydd a thryloywdeb” ac yn rhan o goelcerth o gwangos gan glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. O’r datganiad:

The Broadcasting Act 1990 (as amended) includes a provision that S4C will funded at the level it was in 1997, then increased annually by the amount of the Retail Price Index.  The Government considers that this is unsustainable in the current financial climate and intends to change it so that the Secretary of State will determine the level of funding.

Fel mae Gweinidog Treftadaeth yn dweud yn Golwg wythnos diwethaf y broblem gyda Jeremy Hunt ac S4C yw nad yw pwysigrwydd y sianel i’r Cymry Cymraeg ym mhrofiad y Gweinidog Treftadaeth San Steffan. Y llinell gan adran Alun Ffred heddiw yw:

“Rydyn ni’n siomedig iawn gyda’r penderfyniad heddiw i newid trefniadau ariannu S4C. Cafodd y rhain eu gosod trwy statud i sicrhau sefydlogrwydd ac annibyniaeth hirdymor y sefydliad.

“Ni ddylai’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon anwybyddu ei hymrwymiadau statudol tuag at y sianel nag anghofio bod S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus, nid yn Adran y Llywodraeth neu gorff llywodraethol anadrannol.

“Dylid trin S4C yn yr un ffordd â darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill o ran y trafodaethau ynglŷn â’i dyfodol hirdymor a chyllido.

“Mae gan S4C ran allweddol i’w chwarae i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau i ffynnu.  O ran hyn, nid darlledu’n unig yw ei swyddogaeth.

“Rydyn ni’n annog y llywodraeth i ymgymryd ag adolygiad llawn o drefniadau ariannu a gweithredu S4C iddyn nhw wneud penderfyniadau sy’n ystyried dyfodol hirdymor y sianel.”

DIWEDDARIAD: Ymateb S4C

“Ers 1982 mae ariannu S4C wedi cael ei ymgorffori mewn statud. Mae’r cysylltiad statudol yma wedi sicrhau sefydlogrwydd hir-dymor ac annibyniaeth olygyddol S4C, tra hefyd yn diogelu’r sianel rhag ymyrraeth wleidyddol. Darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yw S4C nid Adran o’r Llywodraeth. Dylid ymdrin â S4C yn yr un modd a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill ac i’r un amserlen.

“Drwy symud i sefyllfa lle mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu’r lefel o ariannu, mae’n hanfodol fod yr egwyddor a sefydlwyd ers blynyddoedd o weithredu annibynnol gan ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus yn dal i gael ei diogelu.

Wrth gwrs, dylai’r cyhoeddiad heddiw gael archwiliad seneddol llwyr a phriodol.

“Mae S4C eisoes wedi cynnig i’r Adran Ddiwylliant, Cyfathrebu a Chwaraeon fod Awdurdod y Sianel yn cynnal adolygiad llwyr o’i gweithgareddau.

“Cred S4C ei bod yn hanfodol sicrhau gwasanaethau darlledu yn yr iaith Gymraeg i’r dyfodol.”