Yn ôl John Osmond o’r Sefydliad Materion Cymreig, mae’n rhaid dod i delerau â’r Cymoedd er mwyn deall Cymru gyfan. Dyma ddyfyniad o’i erthygl ar clickonwales.org …

Yn ôl yn 1921, rhoddodd Syr Alfred Zimmern, Athro cyntaf Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth, anerchiad enwog i’r Gymdeithas Gambriaidd yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen. O dan y teitl Impressions of Wales, roedd yn cynnwys yr haeriadau hyn:

“Nid yw Cymru’r dwthwn hwn yn gymuned. Nid oes un Gymru; y mae tair … y mae’r Gymru Gymraeg; y mae’r Gymru ddiwydiannol, neu, fel y byddaf i weithiau’n synied amdani, y Gymru Americanaidd; ac mae’r Gymru ddosbarth uwch, neu’r Gymru Seisnig. Mae’r tair hon yn cynrychioli mathau gwahanol a thraddodiadau gwahanol. Y maent yn symud i gyfeiriadau gwahanol ac, os bydd y tair yn goroesi, nid ydynt yn debygol o ail-uno byth.”

I ba raddau y mae’r dadansoddiad yma’n gywir? I ba raddau y mae’n parhau’n berthnasol yn ein hoes ni, dair cenhedlaeth yn ddiweddarach? A yw’r tri rhanbarth Cymreig a nododd Zimmern yn parhau ar wahân ac yn “symud i gyfeiriadau gwahanol”? Wedi’r cyfan, mae gan bob gwlad ei rhanbarthau a’i rhaniadau. A yw Cymru rywfodd yn unigryw gyda thri rhanbarth anghymarus – yn yng ngeiriau Zimmern “yn symud i gyfeiriadau gwahanol” – i’r fath raddau nes bod unoliaeth uwch yn amhosib? A yw’r Cymoedd – y Gymru Americanaidd yn ôl darlun Zimmern – yn rhwystr anorfod i undod cenedlaethol?

Cafodd dadansoddiad Zimmern ei gadarnhau’n fras, er yn fwy dadansoddol, gan astudiaeth Denis Balsom o etholiadau yng Nghymru, yn 1979. Deilliodd honno ar yr hyn a ddaeth yn hysbys dan yr enw Model y Tair Cymru. Roedd yn rhannu Cymru’n dair ardal wleidyddol glir, wedi’u seilio ar yr atebion i ddau gwestiwn mewn arolwg; “A ydych fel rheol yn eich ystyried eich hunan yn Gymreig, yn Brydeinig, yn Seisnig, neu’n rhywbeth arall?” ac “A ydych chi’n siarad Cymraeg?” O fapio’r atebion hyn yn ddaearyddol, cafwyd tair ardal.

Roedd y gyntaf, a alwyd yn Fro Gymraeg gan yr ymchwilwyr – Cymru Gymraeg Zimmern – yn cynnwys y gogledd-orllewin a pherfeddwlad y gorllewin a’r canolbarth. Yma, Plaid Cymru sy’n gosod yr agenda wleidyddol ac, er nad yw’n ennill pob etholiad, i raddau helaeth yn penderfynu pa blaid sy’n ennill. Yr ail ardal yw’r Cymoedd, sy’n cael ei diffinio gan faes glo de Cymru, ‘Cymru Americanaidd’ Zimmern. Dyma gadarnle etholiadol y Blaid Lafur, a ddefnyddiodd i estyn allan i dra-arglwyddiaethu tros wleidyddiaeth Cymru am lawer o’r 20fed ganrif. I raddau helaeth mae wedi cilio’n ôl iddi erbyn hyn. Y drydedd ardal, a alwyd gan ymchwilwyr 1979 yn Gymru Brydeinig yw’r gweddill annelwig – glannau’r de-ddwyrain a’r gogledd-ddwyrain, Sir Benfro, a’r rhannau o ganolbarth Cymru sy’n ffinio â Lloegr.

Cafodd y term Cymru Americanaidd ei ddefnyddio gan Zimmern ac, yn ddiweddarach, gan yr hanesydd Gwyn Alf Williams, oherwydd y mewnfudo anferth a fu i’r Cymoedd yn anterth y diwydiant glo. Dim ond yn yr Unol Daleithiau y cafwyd symud poblogaeth tebyg i’r hyn a fu yno rhwng yr 1880au a’r Rhyfel Byd Cyntaf, o’r Gymru wledig ac o Loegr, Iwerddon a gweddill y byd.

Cafodd y tebygrwydd i’r Unol Daleithiau hefyd ei godi mewn erthygl graff yn rhifyn diweddaraf Llafur, cyfnodolyn hanes pobl Cymru …. mae Daryl Leeworthy, myfyriwr doethuriaeth yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe, wedi sgrifennu papur disglair yn cymharu cymunedau glofaol y Cymoedd a Cape Breton (ar lannau dwyreiniol pellaf Canada) ar droad yr 20fed ganrif, Miners on the Margins: Characterising South Wales and Cape Breton as an Industrial Frontier, 1880-1939.

Mae wedi dod o hyd i nifer rhyfeddol o gyfatebiaethau rhwng y ddwy gymuned sydd, i mi, yn creu dealltwriaeth bwysig o natur sylfaenol y Cymoedd ac, yn y pen draw, pam nad ydyn nhw’n rhanbarth ar wahân o Gymru. Achos mae’r syniad o fod ar wahân, o fod yn ‘rhywbeth arall’ yn ei hanfod yn greadigaeth sy’n cael ei gosod o’r tu allan, gan ganolfan fetropolaidd y diwylliant. Y gwir yw nad oedd gan bobol y Cymoedd unrhyw ddewis ond datblygu’n annibynnol, i’w creu (ac yn awr i’w hail-greu) eu hunain ar eu telerau eu hunain. Trwy eu cymharu gyda’r gymuned lofaol yn Cape Breton, a oedd yn datblygu fwy neu lai yr un pryd ac ar yr un cyflymder, mae Leeworthy yn eu gweld yn ardal  ffin – frontier – ddiwydiannol, sy’n cael ei ddiffinio ganddo fel hyn:

“… rhanbarth – maes glo yn fwyaf amlwg – sydd ymhell oddi wrth ddylanwadau canolfan fetropolaidd ac sydd felly yn creu ei hunaniaeth ei hun, ei ffurfiau diwylliannol ei hun, a’i sefydliadau ei hun. Er hynny, lled-annibynnol yw ardal y ffin ddiwydiannol, oherwydd ei bod yn ddarostyngedig i alwadau o’r tu allan, sef y gyfundrefn ddiwydiannol gyfalafol y bu llawer yn ardal y ffin ddiwydiannol yn ymladd yn ei herbyn. Yn yr ystyr hwnnw, felly, mae ardal y ffin ddiwydiannol yn hunaniaeth y mae pobol yr ardal yn ei chreu a’i hail-greu genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth. Mae’n ffynhonnell i ddiwylliant gwrth-hegemonaidd ond sy’n dibynnu ar farchnadoedd o’r tu allan er mwyn goroesi yn rhanbarth diwydiannol.”

Aiff Leeworthy yn ei flaen i ddarlunio’r syniad craff hwn trwy drafod sut y cafodd rygbi ei fabwysiadu gan gymunedau glofaol y Cymoedd a Cape Breton. Yn y ddau achos, roedden nhw wedi cipio a newid gêm ddosbarth uwch gyda’i moesoldeb ei hun (amaturiaeth er enghraifft) i fod yn gêm a oedd o ddifri’n adlewyrchu eu hunaniaeth ddosbarth gwaith eu hunain. Roedd rygbi yn benodol yn ddeniadol oherwydd ei bod yn ei hanfod yn gorfforol, nodwedd uchel ei pharch.

Mae Leeworthy yn caniatáu inni weld, hefyd, sut yr oedd cymunedau’r Cymoedd, yn arbennig, yn codi uwchben y syniad bod eu diwylliant dosbarth gwaith wedi ei seilio ar lafur corfforol. Yma hefyd mae ei syniad o ‘frontier’ diwydiannol yn ddefnyddiol:

“ …. roedd y duedd yn ne Cymru ac ychydig yn ddiweddarach yn Cape Breton i ddatblygu llyfrgelloedd pwll a’r Stiwtiau gwych yn ail-drefnu sylfaenol ar berthnasau cymdeithasol. Wedi’r cyfan, gwerthoedd hanfodol ddosbarth canol oedd rhoi gwerth ar wybodaeth a llwyddiant ymenyddol. Roedd y ffaith bod gweithwyr wedi meddiannu’r syniad o allu ymenyddol a’i droi i’w byd eu hunain yn dangos pa mor ddiffygiol yw’r persbectif fetropolaidd ac yn tanlinellu gwerth gweld diwylliant o safbwynt y ‘frontier’ diwydiannol …”

Felly, beth am y Cymoedd heddiw, cymuned lofaol hanesyddol heb lo? Wel, yn syml, mae pobol y Cymoedd yn amsugno Cymru, tra bod gweddill Cymru yn amsugno’r Cymoedd. Yn rhifyn nesaf Agenda (cylchgrawn y Sefydliad), byddwn yn adrodd am ymchwil ddiddorol iawn a wnaed yng Nghaerffili sy’n dangos mai’r rheswm pennaf o lawer pam fod rhieni Saesneg eu hiaith yn anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yw eu hawydd i uniaethu â diwylliant Cymru. Ac, wedi’r cyfan, onid yw Cymru gyfan wedi mabwysiadu rygbi yn gêm genedlaethol iconig? Efallai bod Cymru gyfan yn ‘frontier’ diwydiannol.

Mae gan Golwg360 gytundeb i gyhoeddi erthyglau achlysurol o wefan y Sefydliad Materion Cymreig. Mae fersiwn ychydig llawnach o’r erthygl hon ar www.clickonwales.org/2010/10/the-valleys-as-an-industrial-frontier