Brian Flynn (llun o wefan y Gymdeithas Bêl-droed)

Mae deuddydd cyn i Gymru herio Bwlgaria mewn gêm dyngedfennol i obeithion ein hymgyrch rhagbrofol Ewro 2012. Owain Schiavone sy’n awgrymu y bydd rheolwr dros dro’r tîm rhyngwladol, Brian Flynn yn teimlo rhwystredigaeth wrth baratoi ei garfan…

Cwta fis yn ei swydd fel rheolwr dros dro Cymru, a cyn ei gêm gyntaf wrth y llyw, ac mae Brian Flynn yn gwybod yn union am y rhwystredigaeth yr oedd John Toshack yn ei deimlo yn ystod ei chwe blynedd yntau’n rheoli’r tîm rhyngwladol.

Roedd Flynn yn gwybod cyn derbyn y swydd y byddai dau o sêr mwyaf disglair Cymru, Aaron Ramsey a Jack Collison, yn eisiau ar gyfer y gemau yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir sy’n cael eu chwarae dros yr wythnos nesaf.

Penbleth Bellamy

Craig Bellamy (llun David Jones / Gwifren PA)

 

Daeth yr ergyd fawr gyntaf i’w gynlluniau felly pan ddaeth i’r amlwg na fyddai’r capten, Craig Bellamy, yn ffit i fod yn ei garfan. Digon teg o ystyried ar y pryd nad oedd Bellamy wedi chwarae’r un gêm i Gaerdydd ers iddo frifo ei ben-glin yn y gêm yn erbyn Montenegro. Beth sy’n peri penbleth ydy’r ffaith i Bellamy chwarae gêm lawn i’w glwb yn erbyn Barnsley ddydd Sadwrn, gan edrych mor ffit ag erioed wrth arwain ei dîm i fuddugoliaeth.

Mae adroddiadau’n awgrymu fod Flynn a Dave Jones wedi dod i ddealltwriaeth ynglŷn â Bellamy, a bod cytundeb rhyngddynt nad yw ei ben-glin yn ddigon cryf i chwarae dwy gêm mewn wythnos ar hyn o bryd. Wedi dweud hynny, mae’n rhyfedd iawn na fydd capten Cymru yn cymryd unrhyw ran yn yr un o’r ddwy gêm sy’n gwbl dyngedfennol i’r ymgyrch ragbrofol…ac efallai cyfle olaf Bellamy i chwarae mewn rowndiau terfynol i’w wlad. Efallai bod mwy iddi nad ydan ni’n gwybod amdano, ond rhaid dweud bod parodrwydd Flynn i roi mewn i Jones yn awgrymu gwendid yn y rheolwr newydd.

Er gwaethaf absenoldeb Bellamy, roedd golwg digon soled i’r garfan a gafodd ei enwi gan Flynn ddydd Gwener diwethaf. Roedd rhai o’r enwau ifanc newydd yn y garfan yn awgrymu bod Flynn yn sicr a’i olygon ar ddyfodol tymor hir yn y swydd, tra’i bod hefyd yn braf gweld enwau’r ddau Danny, Gabbidon a Collins nôl yn y dewis o amddiffynwyr.

Sbaner yn y wyrcs

Dechreuodd pethau fynd o chwith i Flynn ddydd Llun, gyda’r newyddion fod Rob Earnshaw wedi tynnu nôl o’r garfan gydag anaf.

Cafodd Flynn ergyd arall i’w gynlluniau yn hwyrach y diwrnod hwnnw wrth i Danny Gabbidon benderfynu ei bod yn bryd ymddeol o bêl-droed rhyngwladol. Dyma’r math o sefyllfa a gododd droeon yn ystod teyrnasiad John Toshack wrth gwrs. Mae Gabbidon wedi cael amser erchyll gydag anafiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae rhywun yn deall ei benderfyniad er mwyn ceisio diogelu ei ddyfodol ar lefel clwb. Yr hyn dwi’n methu a’i ddeall ydy pam cyhoeddi’r newyddion ddyddiau ar ôl iddo gael ei enwi yng ngharfan Cymru? Roedd Gabbidon bownd o fod yn gwybod ei fod yn mynd i gael ei enwi yn y garfan felly pam ddim rhoi gwybod i Flynn cyn iddo wneud y cyhoeddiad yn hytrach na rhoi ergyd i’w gynlluniau fel hyn? Does dim amheuaeth fod Gabbidon wedi bod yn was ffyddlon i’w wlad dros y blynyddoedd felly mae’r ffordd y mae wedi ymdrin â hyn yn siomedig.

Daeth yr ergyd ddiweddaraf i Flynn ddoe gyda’r newyddion bod Brian Stock o Doncaster a Neal Eardley o Blackpool yn tynnu nôl gydag anafiadau. Yn wahanol i Gabbidon, mae’n annhebygol y byddai’r un o’r rhain wedi dechrau’r gêm yn erbyn Bwlgaria. Er hynny, petai chwaraewyr yn codi anafiadau neu waharddiad o’r gêm honno, yna bydden nhw wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer yr ail gêm allan yn y Swistir. Mae hynny’n arbennig o wir yn achos Eardley sydd wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i Blackpool yn yr Uwch Gynghrair eleni.

Ychwanegu enwau defnyddiol

Er y gellid dadlau mae chwaraewyr ymylol ydy tri o’r rhain, mae colli pum chwaraewr yn mynd i wanhau carfan ac mae gweld chwaraewyr yn tynnu nôl rhoi’r neges anghywir.

Ryan Dobble o Southampton

 

Mae Flynn wedi ychwanegu Darcy Blake, Neil Taylor, Andrew Crofts a Ryan Doble i’r garfan bellach. Mae Crofts wedi sgorio tair gôl mewn 10 gêm Bencampwriaeth i Norwich eleni gan helpu ei dîm i gyrraedd y trydydd safle yn y gynghrair, felly mae’n syndod nad oedd yn y garfan beth bynnag. Mae Blake hefyd wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i Gaerdydd ac mae ei allu i chwarae mewn nifer o safleoedd yn golygu ei fod yn foi defnyddiol i’w gael yn y garfan. 

Mae enw Ryan Doble yn un diddorol hefyd. Dim ond 19 oed ydy Doble, a tydi o ddim wedi chwarae i dîm cyntaf Southampton eto. Er hynny, fe chwaraeodd ei gêm gyntaf i dîm dan-21 Cymru yn erbyn Hwngari fis diwethaf ac mae’n amlwg fod gan Flynn feddwl mawr ohono. 

Gan gymryd na fydd yna fwy o chwaraewyr yn tynnu nôl o’r garfan, mae gan Flynn ddigon o chwaraewyr i ddewis tîm a all guro Bwlgaria nos Wener. Gan ddibynnu ar y system y bydd Flynn yn ei mabwysiadu, dwi’n disgwyl i’r tîm edrych rhywbeth fel hyn:

1)      Wayne Hennessey

2)      Chris Gunter

3)      Danny Collins

4)      Ashley Williams

5)      James Collins

6)      David Edwards

7)      David Vaughan

8)      Joe Ledley

9)      Steve Morison 10)   Simon Church

11)   Gareth Bale

Un chwaraewr a allai orfodi ei ffordd mewn i’r XI cyntaf ydy Andy King o Leicester, ac os fydd Flynn yn dewis chwarae gyda phump yng nghanol cae mae’n bosib y bydd yn cael ei ddewis cyn Simon Church.

Steve Morison (llun o wefan clwb Milwall)

 

Mae’r amddiffyn, gydag ychwanegiad Danny Collins sy’n awyddus i greu argraff, yn edrych yn ddigon soled. Mae’r canol cae yn cynnwys 4 chwaraewr sy’n chwarae ar y lefel uchaf yn Lloegr a’r Alban hefyd, ond byddai gallu ychwanegu Ramsey a Collison yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Y broblem fwyaf i Flynn fydd sgorio goliau ac unwaith eto dwi’n gweld y dasg yn disgyn i Steve Morison o Milwall sydd wedi sgorio 4 gôl mewn 10 gêm i’w glwb hyd yn hyn eleni. Bydd angen iddo drosglwyddo’r hwyl yna i lefel rhyngwladol os oes gobaith i Gymru gipio 4 pwynt o’r ddwy gêm yma.