Mae cwmni cynhyrchu Boom wedi penodi dau reolwr newydd.

Mae’r cwmni, oedd yn dathlu eu pen-blwydd yn 30 oed y llynedd, yn un o’r rhai mwyaf llewyrchus yn niwydiant cynhyrchu Cymru.

Mae Boom hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn cynhyrchu dwy raglen deledu newydd, fydd yn cael eu darlledu gan Channel 5.

Penodiadau

Bydd Angela Oakhill yn ymuno â Boom ar ôl cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Gweithredu, sy’n rôl newydd yn y cwmni.

Mae ganddi brofiad helaeth wedi bron i 30 mlynedd o waith rheoli mewn cwmnïau cynhyrchu blaenllaw, gan gynnwys datblygu rhaglenni megis Only ConnectDickinson’s Real DealTipping PointThe Crystal Maze,Eat Well for Less, a Shop Well for Less.

Bydd hi’n cefnogi Nia Thomas, Cyfarwyddwr Rheoli presennol Boom, ynghyd â rheolwyr eraill y cwmni.

Bydd Elen Rhys, cyn-Bennaeth Adloniant S4C, hefyd yn ymuno â Boom ar ôl cael ei phenodi’n Bennaeth ar gangen rhaglenni plant y cwmni, Boom Kids.

Bydd hi’n olynu Angharad Garlick, fydd yn camu o’r neilltu ym mis Chwefror ar ôl ugain mlynedd yn ei swydd.

‘Amhrisiadwy’

Dywed Nia Thomas ei bod hi wrth ei bodd wrth groesawu’r ddau reolwr newydd i’r cwmni.

“Mi fydd profiad trawiadol, gweledigaeth arbenigol, a gallu masnachol Angela yn amhrisiadwy wrth barhau i dyfu’r busnes,” meddai.

“Mi fydd greddfau golygyddol, creadigrwydd, a dycnwch Elen hefyd yn hanfodol wrth i ni gyflwyno prosiectau newydd.

“Gyda chefnogaeth ein huwch-dîm, rydym ni’n hyderus y bydd y cwmni’n parhau o nerth i nerth.”

Mae hi hefyd wedi diolch i Angharad Garlick am ei chyfraniadau hi at y cwmni, gan ddweud y bu’n “bleser llwyr cael cydweithio” â hi.

Rhaglenni dogfen newydd

Mae Boom hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi cynhyrchu dwy raglen ddogfen fydd yn cael eu darlledu ar Channel 5 eleni.

Bydd The Motorway Pile-Up: Who’s to blame? yn bwrw golwg ar wrthdrawiadau ar yr M5 yng Ngwlad-yr-Haf ym mis Tachwedd 2011.

Cyfres ddogfen bedair pennod wedi’i chyflwyno gan Fern Britton yw Summer on the Isles of Scilly, fydd yn archwilio’r bywyd gwyllt a’r cymunedau sy’n byw ar yr ynysoedd ger arfordir Cernyw.