Gallai hen westy hanesyddol sy’n darparu llety dros dro i bobol sy’n chwilio am dai gan awdurdodau lleol gael ei adnewyddu i gynyddu nifer yr ystafelloedd gwely.
Cafodd Mostyn Lodge ym mhentref Mostyn, Sir y Fflint ei adeiladu fel tafarn yn y 1850au.
Daeth yr adeilad rhestredig Gradd II yn westy yn y 1990au, ar ôl cael ei werthu gan y perchnogion ar y pryd.
Mae cais cynllunio bellach wedi’i gyflwyno i Gyngor Sir y Fflint er mwyn adnewyddu adain ddwyreiniol yr adeilad i greu chwe ystafell wely ychwanegol.
Ystafelloedd gwely symudol
Dywed y perchnogion Mostyn Lodge y byddai’r gwaith yn helpu i ddod ag ardal wag o’r adeilad yn ôl i ddefnydd, gan arwain at gael gwared ar dair ystafell wely symudol dros dro y tu allan i’r adeilad.
Byddai hefyd yn creu derbynfa, swyddfeydd ac ystafell gymunedol ar y safle.
Mewn dogfennau cynllunio gafodd eu cyflwyno gan y Cyngor, dywed cynrychiolydd o’r cwmni fod yr adeilad yn “gweithredu fel tai amlfeddiannaeth (HMO) dan reolaeth a goruchwyliaeth i gefnogi anghenion tai awdurdodau lleol”.
“Fodd bynnag, mae mewn cyflwr gwael ac nid yw’n gwireddu ei botensial yn llawn fel gwasanaeth tai hollbwysig.
“Mae’r gweithredwyr presennol yn ceisio buddsoddi yn yr eiddo i’w adnewyddu a defnyddio rhai o’r lleoedd gwag yn yr adain ddwyreiniol fel ystafelloedd gwely.”
Maen nhw’n dweud bod y cais yn “ceisio am ganiatâd ar gyfer gwaith adnewyddu mewnol, mân newidiadau mewnol, ac ychwanegu cyswllt cefn bach fydd yn helpu i wella symudiad, mynediad a diogelwch o amgylch y safle”.
“Y nod yw cynyddu nifer yr ystafelloedd gwely, darparu ardal staff dynodedig, a gwella ymarferoldeb a safonau cyffredinol y cyfleuster.”