Mae tri myfyriwr o Batagonia wrthi’n casglu arian er mwyn gwireddu eu breuddwyd o ddod ar daith i Gymru dros yr haf.
Dydy Santiago Pires, Meleri Pinciroli na Kiara Arce ddim yn dod o aelwydydd lle mae’r Gymraeg yn flaenllaw.
Cawson nhw eu cyflwyno i’r iaith yn gynnar iawn yn eu bywydau, am iddyn nhw fynychu ysgol feithrin Gymraeg.
Ond doedd gan y tri ddim dewis o ran mynychu ysgol gynradd uniaith Sbaeneg, am nad oedd ysgol gynradd ddwy ieithog yn y Gaiman ar y pryd.
Serch hynny, rhoddodd y prosiect dysgu Cymraeg yn y Wladfa yn Chubut, y dalaith lle mae’r tri yn byw, y cyfle iddyn nhw dderbyn gwersi anffurfiol ar ôl ysgol.
Maen nhw hefyd yn canu yn Gymraeg mewn corau plant, ac yn adrodd a dawnsio mewn eisteddfodau lleol.
Cyfarfod â siaradwyr Cymraeg eraill
“Mae cyfarfod pobol sy’n dod drosodd o Gymru yn bwysig yma,” meddai Esyllt Roberts, un o’u hathrawon Cymraeg.
“Maen nhw wedi gorfod defnyddio’r iaith gyda phobol o Gymru er pan oedden nhw’n blant bach.
“Mae Cymdeithas Cymru-Ariannin wedi bod yn bwysig hefyd i hyrwyddo eu defnydd o’r iaith.
“Roedd y tri i fod i fynd ar daith i Gymru gyda chriw arall yn 2020 ond rydyn ni i gyd yn gwybod beth ddigwyddodd bryd hynny!”
Erbyn hyn, maen nhw’n fyfyrwyr yng Ngholeg Camwy, gafodd ei sefydlu fel Ysgol Ganolraddol y Camwy yn 1906.
Mae’n debyg mai dyna’r unig ysgol uwchradd yn y byd oedd yn dysgu drwy’r Gymraeg ar y pryd.
Yn ystod eu blynyddoedd yn y coleg, maen nhw wedi sefyll arholiadau dysgu Cymraeg CBAC ac eisoes wedi pasio’r ddau arholiad cyntaf.
Maen nhw’n gobeithio ymgeisio am y cymhwyster nesaf fis Mehefin.
“Maen nhw’n blant brwdfrydig iawn ac yn weithgar o ran yr iaith,” medd eu hathrawes wrth golwg360.
“Maen nhw’n defnyddio’r iaith bob cyfle maen nhw’n ei gael.”
Aduno â’u cyfeillion Cymreig
Yn ddiweddar, cafodd y myfyrwyr y cyfle i gwrdd â dau griw o ddisgyblion o Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon a Choleg Dewi Sant yng Nghaerdydd.
Roedd y disgyblion ar daith ym Mhatagonia.
“Oherwydd bod yna bobl ifanc wedi bod yn dod draw maen nhw’n hynod awyddus i gael mynd i Gymru eu hunain,” meddai Esyllt Roberts.
“Mae ein pobol ifanc ni yn gweld llawer o Gymry ifainc yn dod draw, ond mae hi bron yn amhosibl i ni fedru trefnu rhywbeth tebyg o’r pen yma.”
Gobaith y tri yw teithio draw ddiwedd mis Mehefin os ydyn nhw’n llwyddo i fwrw eu targed o gasglu £4,600.
Cwrdd â’u ffrindiau newydd o Gymru fyddai un o’r pethau cyntaf fyddai’r myfyrwyr yn ei wneud pe baen nhw’n cael y cyfle i ddod ar daith.
Ond mae ganddyn nhw restr faith o bethau eraill yr hoffen nhw eu gwneud, gan gynnwys treulio eu penwythnosau yn Tafwyl a Sesiwn Fawr Dolgellau.
“Diwrnod pwysig iawn arall i’r gymdeithas ydy Gorffennaf 28, neu Gŵyl Glaniad, sy’n dathlu’r diwrnod daeth y Cymry i Batagonia yn 1865,” meddai Esyllt Roberts.
“Hefyd, maen nhw’n awyddus i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf, wrth gwrs.”
Mae Llanuwchllyn ger y Bala wedi’i gefeillio â’r Gaiman ers tro, ac mae’r athrawes wedi bod mewn cysylltiad â’r Cyngor Cymuned ac yn gobeithio gallu trefnu rhywbeth yn y fan honno hefyd.
“Felly gobeithio fyddan nhw’n gallu teithio ledled Cymru,” meddai.
Gwerth y peso yn gostwng
Roedd y tri wedi llwyddo i gasglu bron i £1,000 lai na diwrnod ar ôl iddyn nhw greu eu tudalen gofundme.
Dros y penwythnos, bydd y myfyrwyr yn gwerthu empanadas cartref i drigolion eu tref, mewn ymgais i godi mwy o arian.
Ond oherwydd “sefyllfa echrydus” economi’r Ariannin ar hyn o bryd, dywed Esyllt Roberts ei bod hi’n bwysig ceisio denu cefnogaeth o Gymru hefyd.
“Mae yna chwyddiant ofnadwy wedi bod yma ers blwyddyn, sydd wedi codi dros 200%,” meddai.
“Mae’n anodd iawn iawn iddyn nhw gasglu arian yma oherwydd bod y peso yn gostwng mewn gwerth bron yn ddyddiol.
“Felly mae’n her os wyt ti’n hel pesos, achos bod eu gwerth nhw yn disgyn mor gyflym.”
Maen nhw’n gobeithio y bydd yr arian a ddaw drwy eu tudalen gofundme yn hwb ychwanegol i’w cynorthwyo ar hyd eu taith.