Mae angen i rywun gymryd cyfrifoldeb dros orfodi mapiau Arolwg Ordnans (OS) i ddefnyddio enwau Cymraeg ar greigiau yn Eryri, yn ôl ymgyrchydd.

Mae Eilian Williams, sy’n dod o Nant Peris ger Llanberis yn wreiddiol, wedi bod yn casglu’r enwau roedd bugeiliaid yn yr ardal yn arfer eu defnyddio ar greigiau sydd ag enwau Saesneg ar fapiau’r OS.

Dywed yr OS eu bod nhw’n gweithio gyda chydweithwyr mewn nifer o awdurdodau i ymchwilio i’r mater.

Does gan Gyngor Gwynedd ddim cyfrifoldeb na phwerau statudol dros fapiau cyrff na sefydliadau eraill, fel yr OS, ond dywed llefarydd ar eu rhan ei bod hi’n “destun siom” nad ydyn nhw’n defnyddio enwau Cymraeg cynhenid.

‘Y weithred olaf o goloneiddio’

Mae angen newid ryw ugain enw yn ardal yr Wyddfa a’r Glyderau, meddai Eilian Williams, gan ychwanegu nad oes ganddyn nhw’r enwau Cymraeg ar gyfer pob un ohonyn nhw.

Mae’n debyg bod dringwyr wedi creu neu ddefnyddio enwau Saesneg ar y creigiau dros y ganrif ddiwethaf, a bod rheiny wedi cael eu cynnwys mewn llyfrau a’r OS wedi’u mabwysiadu nhw.

Eglura Eilian Williams ei fod wedi dechrau’r gwaith o gasglu’r hen enwau gyda dau fugail yn Nant Peris, a bod ambell enw Cymraeg ar greigiau o amgylch y Glyderau a’r Wyddfa yn dal ar goll – yn eu plith mae ‘Sub-Cneifion Rib’ islaw Cwm Cneifion, ‘The Horns’ ger Llyn Teyrn a’r ‘Far South Peak’ ar Tryfan.

“Mae lot o’r enwau [Cymraeg] yn cynnwys ein hanes ni, mae yna enwau fel ‘Pant yr Ymryson’, lle oedd y brwydrau ers talwm, a ‘Bwlch Llannerch Goch’ yn Nant Peris, mae’n siwr mai cyfeirio at y gwaed oedd enw fel yna dim lliw’r creigiau,” meddai Eilian Williams wrth golwg360.

“Mae’r OS wedi mapio ac enwi bob twll a chongl o Eryri, dyna’r weithred olaf o goloneiddio, dw i’n meddwl.

“Pwy sy’n mynd i orfodi’r OS?”

Bugeiliaid a’u teuluoedd oedd yn defnyddio’r enwau mae Eilian Williams wedi’u casglu yn bennaf, a ddaeth llawer ohonyn nhw ddim i ddefnydd cyffredin.

“Dw i’n siŵr fysa Cyngor Gwynedd yn gallu gwrthsefyll [y defnydd o enwau Saesneg],” meddai wedyn.

“Maen nhw’n enwau cyfrin gan y bugeiliaid, ac mae hi’n bryd iddyn nhw gael eu gweld yn gyhoeddus.”

Twll Du neu Gegin y Cythraul?

Un o’r enwau Saesneg amlycaf yw ‘Devil’s Kitchen’ am hafn Twll Du, sy’n esgyn o Lyn Idwal at y Glyderau.

“Dw i wedi gweld tystiolaeth mai cyfieithiad o Gegin y Cythraul ydy hwnnw,” meddai Eilian Williams.

“Twll Du ydy’r hafn sy’n mynd lawr o wrth ymyl y Glyder i Gwm Idwal, a Chegin y Cythraul ydy gwaelod yr hafn.

“Mae yna Badelli’r Cythraul yna, ryw gerrig efo tyllau ynddyn nhw, a Llwybr y Gegin yn mynd lawr at Lyn Idwal o fan yno.”

‘Testun siom’

Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n gwneud trefniadau i ysgrifennu at yr OS i godi’u pryderon hefyd.

“Nid oes gan Gyngor Gwynedd gyfrifoldeb na phwerau statudol am fapiau cyrff neu sefydliadau eraill fel yr OS,” meddai.

“Er bod enwau creigiau a nodweddion daearyddol eraill o fewn y sir tu hwnt i reolaeth y Cyngor, fel rhan o’n Polisi Iaith newydd gafodd ei fabwysiadu yn Hydref 2023, rydym yn gweithio o fewn ein gallu i amddiffyn enwau lleoedd cynhenid Cymraeg.

“Fel rhan o hyn, mae ein swyddogion wedi cyfarfod â’r OS llynedd i drafod y mater ac wedi eu hannog i ddefnyddio ac arddel enwau Cymraeg yn hytrach na rhai Saesneg ar eu mapiau.

“Yn wir, mae’n destun siom i Gyngor Gwynedd nad ydyn nhw yn defnyddio enwau Cymraeg cynhenid ar eu mapiau ac ar gais Pwyllgor Iaith y Cyngor mae trefniadau yn cael eu gwneud i ysgrifennu at y sefydliad i amlinellu’r pryderon hyn.”

‘Ymchwilio ymhellach’

Yn ôl llefarydd ar ran yr OS, mae’r sefydliad “wedi ymrwymo i gadw fersiynau awdurdodedig o enwau lleoedd Cymraeg ar eu mapiau”.

“Mae’r Arolwg Ordnant yn gwneud ymholiadau ac yn ymgynghori â’r awdurdodau perthnasol i benderfynu, gyda chymaint o awdurdod â phosib, ar yr enwau, ffurf a sillafiad mwyaf addas ar gyfer yr holl lefydd ar fapiau,” meddai.

“Yn aml, mae hyn yn golygu gweithio’n agos â Chomisiynydd y Gymraeg, y Parciau Cenedlaethol, cynghorau lleol a pherchnogion tir.

“Enghraifft ddiweddar o’r broses hon oedd gwaith gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a Chomisiynydd y Gymraeg i fabwysiadu nifer o enwau Cymraeg wedi’u safoni ar gyfer llynnoedd yn Eryri yn ein bas data.

“Gan gyd-fynd â’n polisi enwau Cymraeg rydyn ni’n gweithio gyda chydweithwyr mewn awdurdodau perthnasol i ymchwilio ymhellach i’r ymholiad hwn.

“Mae’r Arolwg Ordnans wedi ymrwymo i gadw fersiynau awdurdodedig o enwau lleoedd Cymraeg yn ei bas data mapio.

“Rydyn ni’n cynnig ystod eang o fapiau o Gymru, neu’n rhannol o Gymru, ar wahanol raddfeydd ar ffurfiau digidol a phapur sydd gan ddeunyddiau a straeon dwyieithog lle bo hynnny’n addas.”