Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, wedi cyhoeddi cefnogaeth barhaus i denantiaid llety cymdeithasol rhent.

Bydd uchafswm newydd o 6.7% yn cael ei osod ar gynnydd rhent cymdeithasol o fis Ebrill hefyd, yn unol â’r gyfradd chwyddiant.

Daw’r cymorth fel parhad o waith hirdymor i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, mewn cytundeb ag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

“Y llynedd, penderfynais bennu uchafswm ar y codiad mewn rhent tai cymdeithasol islaw lefel chwyddiant i roi cymorth ychwanegol i’n tenantiaid tai cymdeithasol wrth iddynt wynebu pwysau yn sgil costau cynyddol bwyd, ynni a nwyddau eraill i gartrefi,” meddai Julie James.

“Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod chwyddiant y Deyrnas Unedig yn 6.7% yn y flwyddyn hyd at fis Medi, sy’n golygu bod yn rhaid i mi, unwaith eto, ymyrryd a phenderfynu ar y codiad rhent uchaf ar gyfer y flwyddyn nesaf o dan Safon rhent a thaliadau gwasanaeth 2020 i 2025.

“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol difrifol, a dyna pam rwyf wedi gwneud y penderfyniad i bennu uchafswm y cynnydd ar lefel chwyddiant.”

Cefnogi tenantiaid

Golyga’r newidiadau mai 6.7% yw uchafswm y cynnydd mewn rhent cymdeithasol y gall landlordiaid ofyn amdano ar draws eu holl eiddo.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw hefyd yn sicrhau ymrwymiadau parhaus gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru i gefnogi tenantiaid sy’n cael trafferth gydag effeithiau’r argyfwng costau byw parhaus, gan gynnwys parhau â’r polisi o beidio troi pobl allan oherwydd caledi ariannol i denantiaid sy’n trafod gyda’u landlordiaid,” meddai.

Er hynny, mae arolwg diweddar gan Wasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru yn dangos bod gostyngiad o 9% yn nifer yr ymatebwyr sy’n teimlo nad yw eu rhent yn fforddiadwy.

Dywed Julie James fod fforddiadwyedd wrth wraidd polisïau rhent cymdeithasol yng Nghymru, a’i bod yn annog landlordiaid i ystyried y sefyllfa cyn cynyddu eu rhent.

“Nid yw’n ofynnol i unrhyw landlord godi’r uchafswm, ac rwy’n annog pob landlord i ystyried fforddiadwyedd yn ofalus ac i osod rhenti priodol ar draws eu stoc tai,” meddai.

‘Cam cadarnhaol iawn ymlaen’

Mae Ross Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Tai Pawb, yn credu bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau positif i fynd i’r afael â her digartrefedd.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw ddiweddaru eu polisïau sero net ar gyfer tai cymdeithasol yn gynharach yr wythnos hon.

“Mae’r symudiad hwn, a’r cynigion yn y papur gwyn, yn gam cadarnhaol iawn ymlaen,” meddai wrth golwg360.

Er hynny, dywed ei bod yn hanfodol fod y targed o 20,000 o dai yn cael ei gyrraedd erbyn diwedd y tymor hwn yn y Senedd.

“Pe baech yn siarad ag unrhyw un yn y maes tai yng Nghymru, rwy’n meddwl y bydden nhw yn dweud mai’r cyfan sydd ei angen arnom yw mwy o dai cymdeithasol, a rhai gwell,” meddai.

“Mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n cyrraedd y targed hwnnw a, lle bynnag y bo modd, ein bod ni’n rhagori arno.

“Mae cyflymder y newid yn bwysig iawn.”

Er ei fod yn dweud nad oes diffyg ymdrech gan y Llywodraeth, mae’n bryderus beth fyddai canlyniad peidio â chyrraedd y targed.

“Mae’n debyg mai’r cwestiwn y byddwn yn ei ofyn i mi fy hun yw, beth os nad ydym yn ei gyflawni?” meddai.

“Dw i’n meddwl bod hynny’n rhagolwg annymunol, mewn gwirionedd, oherwydd mae’r system o dan gymaint o bwysau yn barod.

“Os nad ydym yn symud tuag at ddileu digartrefedd yng Nghymru, ac os yw’n parhau i waethygu ar yr un cyflymder a bod y problemau yn parhau, yna bydd hynny’n golygu sgwrs anoddach.”