Mae pryderon y bydd cymuned Penygroes yn colli allan ar £50,000 gan y Loteri Genedlaethol os na fydd cynlluniau i godi rhandiroedd ar gae Cwtin yn mynd yn eu blaenau.

Gobaith yr Orsaf, y fenter gymunedol y tu ôl i’r syniad, yw rhoi defnydd newydd i dir maen nhw’n dweud sydd heb gael defnydd swyddogol ers dros ugain mlynedd.

Ond mae rhai trigolion yn gwrthwynebu colli’r tir, oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio gan rai aelodau o’r gymuned fel cae chwarae.

Mae posteri “Cadwch Cwtin fel cae chwarae” wedi’u gosod o amgylch y pentref, yn erfyn ar bobol leol i fynegi eu gwrthwynebiad i’r rhandiroedd wrth Gyngor Cymuned Llanllyfni sy’n berchen y tir.

Mae’r mater wedi hollti barn ers cryn amser, gyda chyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal fis Ebrill eleni er mwyn rhoi cyfle i drigolion fynegi eu barn ar y cynlluniau.

Canlyniadau’r ymgynghoriad

Yn ôl Gwenllian Spink o Siop Griffiths Cyf, sydd yn cael ei hadnabod yn lleol fel Yr Orsaf, eu gobaith oedd creu rhywbeth fyddai o fudd i’r gymuned allan o ddarn o dir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio.

“Bydden ni’n defnyddio’r arian grant yma i brynu gwlâu tyfu, gosod llwybrau, prynu offer a byddai’r rhandiroedd ar gael yn ddi-dâl i drigolion lleol,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny’n ei wneud o’n rili hygyrch i bawb allu tyfu bwyd eu hunain, a byddai aelodau staff yr Orsaf a gwirfoddolwyr yna i gefnogi trigolion lleol.”

Bu i’r Orsaf ymgynghori â’r gymuned leol yn Nyffryn Nantlle yn 2022, a chanlyniad rhai o’r ystadegau ddaeth o’r ymgynghoriad hwnnw oedd fod 96% eisiau dysgu neu wella eu sgiliau tyfu bwyd, a bod 92% yn credu bod gerddi cymunedol yn cael effaith bositif ar yr amgylchedd a chymunedau.

Roedd gan 33.6% ddiddordeb mewn cael rhandir.

“Yn wreiddiol, y rheswm wnaethon ni ddewis y darn yna o dir yw oherwydd dyw e heb gael ei ddefnyddio ers dros ugain o flynyddoedd,” meddai.

“Hefyd, mae o mor ganolog i’r pentref felly mae’n hawdd iawn i bobol gerdded yno, neu mae yna lwybrau seiclo.

“Mae’n torri i lawr yr angen i yrru yno.”

Buddion amgylcheddol

Dywed Gwenllian Spink fod buddion amgylcheddol hefyd o greu’r rhandiroedd.

“Rwyt ti’n creu cynefin i fywyd gwyllt, rydyn ni wedi colli 97% o ddolydd blodau gwyllt ers y 1970au,” meddai.

Mae safle o’r enw’r Ardd Wyllt yno eisoes, sef gardd a choedlan gymunedol gan yr Orsaf, ac mae’n cael ei defnyddio gan yr ysgolion lleol.

Mae’r pentref hefyd yn gartref i Ardd Eden, gardd lysiau gymunedol sy’n dosbarthu eu cynnyrch ymysg y gwirfoddolwr.

Gan fod y rhandiroedd yng Ngardd Eden yn llawn erbyn hyn, roedd yr Orsaf wedi gweld cyfle i godi ail safle.

Mae croeso i unrhyw un o’r gymuned helpu eu hunain i’r llysiau, ac maen nhw’n cael eu rhoi allan yn y pantri cymunedol, ynghyd â rhoddion bwyd o’r archfarchnadoedd lleol.

Ers mis Ebrill, mae’r Orsaf wedi darparu dros 450 o fagiau, gan helpu i sicrhau cynnyrch ffres i drigolion yng nghanol yr argyfwng costau byw.

Hollti barn y gymuned

Tra bod rhai’n gwrthwynebu’r rhandiroedd oherwydd nad ydyn nhw eisiau colli’r cae chwarae, dywedodd un dyn lleol wrth golwg360 ym mis Ebrill eleni ei fod yn gwrthwynebu’r rhandiroedd am “lu o resymau”.

Yn ôl Alan Roberts, dydy cae Cwtin ddim yn addas i’w ddefnyddio fel cae chwarae nac fel rhandiroedd, a hynny oherwydd ei gyflwr gwael.

Mae’n pryderu y byddai’r rhandiroedd yn denu llygod mawr, a bod cyflwr y pridd yn golygu nad yw’n cael ei ddraenio’n briodol.

“Dw i ddim yn siarad ar ran Siop Griffiths Cyf, gweld ydw i sut yn y byd fedrwch chi newid y lle drwy osod rhandiroedd yna,” meddai.

“Dw i ddim ei weld o gwbl. A dw i ddim eisio fo – dw i’n chwyrn yn ei erbyn o.

“Mi wnes i hynny’n glir yn y cyfarfod. Mae trigolion yr ardal wedi lleisio eu barn i wrthwynebu’r datblygiad ar dir y Cwtin.”

‘Rhoi’r gymuned yn gyntaf’

Er bod diddordeb yn y prosiect pan gafodd yr ymgynghoriad ei gynnal, mae Gwenllian Spink eisiau sicrhau’r penderfyniad gorau ar gyfer y gymuned yn y pen draw.

“Tir y Cyngor Cymuned yw hi, felly eu penderfyniad nhw yw hi,” meddai.

“Yn amlwg, rydyn ni jest eisiau beth sydd orau i’r gymuned, ac rydyn ni jest eisiau i rywbeth ddigwydd yno, mae’n bwysig bod y gymuned leol yn buddio.”

Dywed eu bod nhw’n ddiolchgar iawn am yr arian sydd wedi ei gynnig gan y Loteri, ond fod pryderon y byddai gohirio’r cynlluniau yn golygu y bydd yr arian yn cael ei golli’n gyfangwbl.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Loteri Dreftadaeth am fod mor amyneddgar gyda ni, achos ar hyn o bryd mae o’n fater parhaus,” meddai.

“Rydyn ni yn gofidio bod yna risg bod yr ardal leol yn mynd i golli dros £50,000 o fuddsoddiad, achos mae’r arian yna wedi clymu efo datblygu’r safle rhandiroedd.”

Mae golwg360 wedi cysylltu â Chyngor Cymuned Llanllyfni, sy’n dweud nad ydyn nhw am wneud sylw ar hyn o bryd, gan fod y sefyllfa dal yn mynd yn ei blaen.

Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw mewn sefyllfa i roi unrhyw ddiweddariad na sylw ar y mater.