Yn ei araith yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Aberystwyth ddydd Gwener (Hydref 6), roedd sicrhau bod ei blaid yn cynrychioli’r holl genedl yn un o flaenoriaethau’r arweinydd Rhun ap Iorwerth.

Ond sut mae sicrhau bod y Blaid yn apelio at bawb, hyd yn oed y tu allan i gadarnleoedd yr iaith Gymraeg?

Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai dyma un o’i brif heriau wrth arwain y blaid, ond nad yw llwyddiant cenedlaethol i’r blaid yn syniad amhosib.

“Rydyn ni’n edrych ar le mae seddi Plaid Cymru wedi bod yn draddodiadol yn San Steffan, ac maen nhw yn y gorllewin,” meddai wrth golwg360.

“Wrth gwrs, rydyn ni’n cynrychioli bob un fodfedd o Gymru yn Senedd Cymru.

“Mae gennym ni aelodau, ac wedi bod ers gwawr datganoli, ym mhob rhan o’r wlad.

“Rydyn ni, wrth gwrs, wedi cael llwyddiant yn y gorffennol yng nghymoedd y de, mae’n llwyddiant ni ar lefel llywodraeth leol i’w weld ym mhob rhan o Gymru.

“Dyna ydi’r neges sydd gen i mewn ffordd, rydw i’n credu’n gwbl greiddiol mewn un Gymru, ac ein bod ni i gyd yn rhan o ddyfodol y genedl lle bynnag ydyn ni.

“Rydw i yn yr un ffordd yn grediniol bod Plaid Cymru yn gorfod gallu bod yn llais ar gyfer pob un rhan o’r wlad.

“Yr her i ni, wrth gwrs, ydi profi hynny.

“Mae o’n un o’r heriau i fi fel arweinydd mewn areithiau, mewn cyfweliadau, ond yn bennaf oll mae o’n her i mi ar lawr gwlad i fynd allan yna a pherswadio pobol ein bod ni’n gallu bod yn llais i bob cymuned.”

“Dim digon” o gefnogaeth tu ôl annibyniaeth

Er i’w ragflaenydd Adam Price ddweud y byddai’r Blaid yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth o fewn pum mlynedd pe baen nhw’n dod i rym, mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi dweud na fydd yn gosod amserlen gadarn ar gyfer Cymru annibynnol.

Fodd bynnag, dywed ei fod yr un mor grediniol ag erioed mai dyna’r ffordd ymlaen i Gymru.

“Dyma fi a’r blaid i gyd yn frwdfrydig i symud ymlaen mor gyflym â phosib tuag at annibyniaeth i Gymru,” meddai.

“Rydw i’n gwbl hyderus yn ein gallu ni i fod yn wlad annibynnol ffynnianus ond nid fi sy’n bwysig mewn difri, pobol Cymru sy’n bwysig.

“Ac ydyn, rydyn ni wedi dod mor bell yn y blynyddoedd diwethaf; traean a mwy o bobol yn cefnogi annibyniaeth yn ôl arolygon barn, y mwyafrif o bobol ifanc mewn rhai arolygon.”

Ond er gwaethaf ei frwdfrydedd, dydy’r arweinydd ddim yn credu bod digon o gefnogaeth i addo refferendwm ar hyn o bryd.

“Ond dydy hynny ddim yn ddigon eto, rydan ni angen dod â mwy o bobol efo ni ar y siwrne,” meddai.

“A dyna ydi ein gwaith ni, i berswadio pobol i gael yr hyder mor fuan â phosib i symud ymlaen tuag at gymryd y lefers yna o newid yn ein dwylo ni.

“Pobol Cymru sy’n gosod yr amserlen, i bob pwrpas.”

Denu’r boblogaeth ifanc yn ôl

Roedd pwysigrwydd cefnogi cymunedau a phobol ifanc hefyd yn flaenoriaethau yn ei araith.

Wrth siarad â golwg360, manylodd ar sut mae’n bwriadu gwneud hynny.

“Mae o’n rywbeth rydw i’n cyfeirio ato yn fy araith i, sut ydyn ni’n gallu cyffroi pobol ifanc am y posibilrwydd o allu rhoi gwreiddiau lawr yn eu cymuned nhw p’un a yw’r gymuned yna yng Nghaerdydd neu Abertawe neu Gasnewydd neu yng Ngwynedd neu Ynys Môn wledig,” meddai.

“Mae yna nifer o ffyrdd o wneud hynny.

“Rydyn ni’n gwybod am gynllun Arfor Plaid Cymru sy’n benodol ar gyfer creu bwrlwm economaidd mewn ardaloedd mwy gwledig yn y gorllewin.”

Dywed fod “haenau” i’r broblem, a bod yn rhaid sicrhau cartrefi a swyddi i fyfyrwyr sy’n dychwelyd.

“Rydw i hefyd yn cyfeirio [yn yr araith] at yr angen i ni allu cadw myfyrwyr o Gymru ym mhrifysgolion Cymru ac i allu denu’r rheiny sydd wedi mynd i ffwrdd i ddod yn ôl,” meddai.

“Mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod yna swyddi ar eu cyfer nhw, mae’n rhaid gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu cael cartrefi.

“Dyna pam bod ein polisïau ni ar gartrefi rydyn ni wedi cyflwyno trwy’r cytundeb cydweithio mor bwysig.

“Rydyn ni’n gorfod edrych ar hwn ar gymaint o haenau gwahanol ac mae’n rhaid iddo fod yn flaenoriaeth achos ein pobol ifanc yn llythrennol ydi ein dyfodol ni.”

O ran achub cymunedau, dywedodd bod angen gwarchod busnesau gan fod y strydoedd fawr “yn galonnau i’n cymunedau ni”.

“Rydw i’n siarad efo busnesau yn aml iawn, a pan mae’n dod at fusnesau stryd fawr mae yna nifer o wahanol elfennau sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod yna’r footfall yna ar y stryd fawr,” meddai.

“Yr un mae’r busnesau yn dod yn ôl ato fo’n aml iawn ydi trethi busnes.

“Maen nhw angen sicrwydd ynglŷn â lle rydyn ni’n mynd i fod efo trethi busnes mewn blynyddoedd i ddod.

“Y gwir amdani ydi bod yna gymaint o niwed wedi cael ei wneud i’r stryd fawr ym mhob rhan o Gymru ac ar draws y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf.

“Dydy’r atebion ddim yn hawdd, ond mae rhoi’r sicrwydd yna iddyn nhw o ran trethi busnes yn un o’r pethau mae angen i bob plaid wleidyddol ei ddatblygu er mwyn sicrhau bod gennym ni’r dyfodol yna ar gyfer y stryd fawr.”