Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r ymgyrchydd canser, y Fonesig Deborah James, sydd wedi marw’n 40 oed ar ôl brwydro canser y coluddyn ers chwe blynedd.

Roedd hi wedi bod yn cael gofal diwedd oes yn ei chartref a bu farw gyda’i theulu o’i chwmpas.

Roedd Deborah James wedi codi miliynau o bunnoedd ar gyfer ymchwil canser ac yn cyflwyno’r podlediad ar y BBC You, Me and the Big C.

Cafodd ei hurddo’n fonesig ym mis Mai.

Roedd y fam i ddau o blant a chyn-athrawes wedi cael diagnosis o ganser yn 2016. Dechreuodd ysgrifennu blog am ei thriniaeth, cyn ysgrifennu i bapur newydd y Sun ac yna darlledu’r podlediad ar y BBC ochr yn ochr â Lauren Mahon a chyflwynydd BBC Radio 5 Live Rachael Bland yn 2018. Roedd hi hefyd wedi ysgrifennu dau lyfr am ei phrofiadau.

“Ysbrydoliaeth”

Mewn neges ar ei chyfrif Instagram @bowelbabe, dywedodd ei theulu ei bod yn “anhygoel” ac yn “ysbrydoliaeth”.

Maen nhw’n dweud ei bod wedi rhannu ei phrofiad o ganser er mwyn “codi ymwybyddiaeth, chwalu rhwystrau, herio tabŵs a newid y sgwrs am ganser.

“Hyd yn oed yn ei chyfnodau mwyaf heriol, roedd ei phenderfyniad i godi arian ac ymwybyddiaeth yn ysbrydoledig.”

Ar 9 Mai eleni fe gyhoeddodd Deborah James bod ei thriniaeth yn dod i ben ac nad oedd yn gwybod faint o amser oedd ar ôl ganddi.

Dywedodd Bowel Cancer UK y bydd y Fonesig Deborah yn “achub bywydau di-rif drwy ei hymgyrchu.”

Roedd hi wedi ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am ganser y coluddyn, gan annog pobl i checio am symptomau.

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi ei disgrifio fel “ysbrydoliaeth i nifer” tra bod arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi dweud bod ei gwaith ymgyrchu yn “hollol ysbrydoledig.. hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol.”