Yr wythnos hon, enillodd y bardd Menna Elfyn wobr nodedig Cholmondeley gan Gymdeithas Awduron y Deyrnas Unedig.
Cafodd yr Athro Barddoniaeth Emerita, a chyn Fardd Plant Cymru, ei hanrhydeddu gydag un o brif wobrau Cymdeithas yr Awduron, ‘Society of Authors’, mewn seremoni arbennig yn Eglwys Gadeiriol Southwark, Llundain ar Fehefin 1.
Mae’r Wobr Cholmondeley yn cael ei rhoi bob blwyddyn i fardd nodedig gan banel o feirniaid er mwyn dathlu a chydnabod cyfraniad sylweddol bardd i farddoniaeth.
Ymhlith enillwyr y wobr yn y gorffennol mae Seamus Heaney, Carol Ann Duffy ac Andrew Motion.
Mae’r wobr yn arwyddocaol am mai dyma’r tro cyntaf erioed i fardd sy’n ysgrifennu yn llwyr yn y Gymraeg dderbyn y fath gydnabyddiaeth am ei chyfraniad i farddoniaeth Gymraeg a hynny yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
“Mae Menna Elfyn yn ffigwr blaenllaw ym myd barddoniaeth gyfoes Cymru, yn ysgrifennu yn Gymraeg yn unig,” meddai Deryn Rees Jones ar ran y panel.
“Yn wir ryngwladolwraig, mae ei gwaith wedi’i gyfieithu i dros ddeunaw iaith.
“Cyhoeddir ei chasgliadau dwyieithog diweddaraf yn Gymraeg a Saesneg gan Bloodaxe.
“Mae Elfyn yn ysgrifennu am bethau personol a phethau bob dydd, byd natur ac am brofiad merched, bob amser yn gallu trawsnewid ei hymwybyddiaeth o’r bach, a’r prydferth, i’r affeithiol ac yn aml, wedyn, y gwleidyddol.
“Mae ei gwaith yn heriol ac yn dosturiol yn ei dro, heb ofn llawenydd, ac yn llawn egni cymuned, gan gynnig trwy rym iaith, wirionedd, cysur a phosibilrwydd.”
Menna Elfyn
“Rwy’n falch o dderbyn yr anrhydedd hon yn dilyn fy llwyddiant i rannu fy marddoniaeth Gymraeg: ei chyfoeth a’i swyn i’r byd,” meddai Menna Elfyn.
Cyhoeddodd bymtheg cyfrol o farddoniaeth ac mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i ugain o ieithoedd.
Mae’r Wasg Bloodaxe wrth eu bodd iddi gael ei chydnabod yn sgil ei chyfrolau cyfochrog yn Gymraeg a Saesneg, sef penderfyniad a wnaeth ynghanol y nawdegau er mwyn rhannu ei gwaith gyda darllenwyr, rhai y dymunai iddyn nhw allu darllen ei gwaith yn y ddwy brif iaith yng Nghymru.
Wedyn daeth cyfrolau mewn ieithoedd amrywiol ac yn dilyn y cam dewr hwn, cafodd ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig yn Sardinia gyda gwobr ryngwladol Anima Istranza am ei chyfraniad i farddoniaeth Ewropeaidd.
Ei chyfrolau dwyieithog mwyaf diweddar yw Murmur, o Wasg Bloodaxe, a gafodd ei dewis yn ‘Poetry Society Recommended Translation’ yn Hydref 2012 a Bondo, eto o Wasg Bloodaxe yn 2017, cyfrol sy’n cyfleu tristwch a thrasiedi Aberfan.
Yn Ebrill 2022, cyhoeddodd gyfrol Gymraeg, Tosturi, gyda Chyhoeddiadau Barddas.
Cafodd ei geni yng Nglanaman a’i magu yng Nghwm Tawe, cyn symud i Sir Gaerfyrddin yn ei harddegau.
Astudiodd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth, cyn darlithio yn rhan amser yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.
Dychwelodd yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Saesneg a sefydlodd hefyd Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas yn 2014.
Mae’r preswylfeydd ysgrifennu a’r darlleniadau niferus a gynhaliodd ar draws y byd o’r Unol Daleithiau, India a gwledydd niferus yn Ewrop wedi golygu ei bod yn ystyried ei hun yn fardd rhyngwladol ac eto’n gweld y byd drwy ffenest yr iaith Gymraeg.
Ysgrifenna am yr anghofiedig, y rhai sydd â’u lleisiau’n ddistaw neu heb eu clywed o gwbl, ac yn aml gwna hyn gyda hiwmor deifiol.
Mae hi hefyd yn ddramodydd a libretydd ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ddrama a gafodd ei chomisiynu gan ‘National Theatre Wales’ ar gyfer 2023.