Bydd gofyn i sefydliadau ariannol a chwmnïau rhestredig yn y Deyrnas Unedig gyhoeddi cynlluniau ar sut y byddan nhw’n trosi i fod yn sero-net.

Daw hyn yn rhan o gynlluniau’r Canghellor Rishi Sunak i wneud y wlad yn ganolfan ariannol sero-net, sy’n cael eu cyhoeddi mewn araith yn COP26 heddiw (3 Tachwedd).

Bwriad hyn yw sicrhau bod Prydain yn cyrraedd targedau sero-net erbyn 2050, ac i gynyddu tryloywder ar ran y cwmnïau hyn.

Yn ei araith yng Nglasgow, mae disgwyl i Sunak amlinellu sut fydd rheolau’n cael eu llunio gan dasglu, a fydd ag aelodau o brifysgolion, grwpiau cymdeithasau sifil, diwydiant a rheoleiddwyr.

Er y bydd Llywodraeth Prydain yn gofyn i gwmnïau gefnogi eu huchelgeisiau amgylcheddol gyda thystiolaeth o weithredu, mae’n debyg na fydd hyn yn cael ei reoleiddio ganddyn nhw, ac mai’r farchnad fydd yn penderfynu os yw eu cynlluniau’n ddigonol neu’n gredadwy.

Bydd disgwyl i gwmnïau ryddhau eu cynlluniau trosi sero-net cyntaf erbyn 2023.

‘Mynd â’r frwydr i amser ychwanegol’

Daw’r cyhoeddiad heddiw ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson ddweud ei fod yn “dawel hyderus” ynglŷn â chytuno ar fargen ryngwladol yn yr Uwchgynhadledd newid hinsawdd.

Fe wnaeth hyd at 100 o wledydd gyhoeddi ymrwymiadau ar wahân ar ddatgoedwigo ac allyriadau methan ddydd Mawrth.

Ond fe wnaeth Boris Johnson bwysleisio bod ffordd i fynd os oedden nhw am gael cytundeb fydd yn llwyddo i gadw cynhesu byd-eang o dan 1.5C.

Defnyddiodd o gyfatebiaeth o’r byd chwaraeon i egluro fod dynoliaeth yn colli 5-1 ar hanner amser yn yr ornest yn erbyn newid hinsawdd.

“Rydyn ni wedi sgorio un gôl, neu ddwy o bosib,” meddai.

“Rwy’n credu y byddwn ni’n gallu mynd â’r frwydr i amser ychwanegol, oherwydd does dim amheuaeth bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud.”

Boris Johnson yn COP26

Mwy o arian

Yn gynharach, fe wnaeth y Prif Weinidog gyfaddef fod rhai o’r gwledydd cyfoethocaf yn parhau i fod ar ei hôl hi ar ymrwymiad i ddarparu £73 biliwn y flwyddyn i wledydd datblygedig.

Cafodd yr ymrwymiad ei wneud yn 2015 er mwyn sicrhau bod gwledydd llai cyfoethog yn gallu lliniaru effeithiau newid hinsawdd.

Mae’r Prif Weinidog, sydd bellach wedi dychwelyd i Lundain, wedi pwysleisio bod angen gweithredu ar “lo, ceir, arian a choed.”