Mae Plaid Cymru yn galw am fwy o gyllid i brosiectau datgarboneiddio ar ffurf bondiau.
Mae’r blaid am sefydlu Bond Gwyrdd Cymru er mwyn sicrhau bod mwy o fuddsoddiad yn yr economi yng Nghymru.
Dywed Llyr Gruffydd, llefarydd cyllid Plaid Cymru, y byddai bondiau gwyrdd yn gallu cael eu cynnig i brosiectau newydd neu rai sy’n bodoli eisoes, ac sy’n gweithredu ar gyfer yr amgylchedd.
Byddai hynny yn galluogi Llywodraeth Cymru i ariannu dulliau datgarboneiddio ac, ar yr un pryd, dal eu gafael ar gyfran uwch o’r arian sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.
Ar Dachwedd 9 y llynedd, fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi cynlluniau i gynnig y gilt, neu fond gwyrdd cyntaf drwy’r Deyrnas Unedig gyfan yn 2022.
Bond Gwyrdd Cymru
“Mae cymaint o botensial yng Nghymru – yn ein tirwedd a’n hadnoddau naturiol – a’r allwedd fydd sut yr ydym yn manteisio ar hynny,” meddai Llyr Gruffydd.
“Byddai Bond Gwyrdd Cymreig yn caniatáu buddsoddi yn ein hamgylchedd, ein heconomi a’n seilwaith, ac yn caniatáu i ni ariannu ymdrechion datgarboneiddio.
“Er mwyn gwneud hynny, rhaid inni geisio’r pwerau sydd eu hangen i wireddu potensial a manteision amgylcheddol ac economaidd ein hadnoddau naturiol yn llawn.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru geisio datganoli pwerau dros ystâd y goron a phwerau ynni yn llawn.
“Dylai adnoddau Cymru gael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru, i bobol Cymru, a byddai Bond Gwyrdd Cymru yn caniatáu i ni gadw cyfran fwy o arbedion yng Nghymru.”