Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar newid hinsawdd mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 3).

Mae aelodau’r blaid yn credu bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â thargedau newid hinsawdd yng Nghymru.

Maen nhw am roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithredu sawl cynllun, sy’n cynnwys:

  • creu Swyddfa Annibynnol ar gyfer Gwarchod yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd, sydd am ddal y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i gyfrif wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.
  • Cyflwyno addewidion fel Bil Awyr Iach, gwahardd plastigion defnydd sengl tu allan i feysydd meddygol, a Chynllun Dychwelyd Ernes ar unwaith.
  • Buddsoddi ymhellach mewn ynni morol ac ynni gwynt ar y môr.

‘Llai o siarad a mwy o weithredu’

Cyn y ddadl yn y Senedd, fe wnaeth Janet Finch-Saunders AS, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, amlinellu galwad ei phlaid.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn fawr o ran siarad – gan ddatgan bod ‘argyfwng hinsawdd’ yn 2019,” meddai.

“Y gwir amdani yw bod eu polisïau newid hinsawdd wedi bod yn araf ac yn feichus, gyda llawer o dargedau allweddol yn cael eu methu neu’n cael eu newid, tra hefyd yn darparu ychydig iawn o gyllid tuag at weithredu ystyrlon ar newid hinsawdd.

“Fe ddywedwyd y byddai ‘ton o weithredu’ pan gafodd yr argyfwng ei ddatgan, ond dydy’r gweithredu rydyn ni’n ei weld hyd yn hyn ddim yn cyfateb i fawr mwy na chrych ar wyneb dŵr.

“Mae’n bryd cael llai o siarad a mwy o weithredu.”