Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i dri o bobol gael eu hanafu yn Aberhonddu ddydd Gwener (Medi 3).

Cafodd un dyn a dwy ddynes eu brifo mewn digwyddiad rhwng Free Street a’r Watton, gyda dau yn cael eu cludo i’r ysbyty.

Roedd dyn wedi ei arestio yn dilyn y digwyddiad ond mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth erbyn hyn.

“Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ddigwyddiad ychydig ar ôl 8 yh ddydd Gwener, 3 Medi, ar gyffordd Free Street a’r Watton yn Aberhonddu,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.

“Cafodd tri o bobol – un dyn a dwy ddynes – eu brifo yn ystod y digwyddiad, ac fe wnaeth y dyn ac un ddynes fynychu’r ysbyty.

“Mae dyn 26 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ac mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i’r heddlu wneud ymholiadau.”

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yn cael eu hannog i gysylltu â’r heddlu, yn enwedig rhywun sydd yn debygol o fod â lluniau camerâu cylch-cyfyng o’r ardal o’r amser sy’n cael ei nodi.