Mae achubwyr wedi achub 208 o ffoaduriaid o gychod oedd yn anelu at arfordir y penrhyn Iberaidd neu’r Ynysoedd Dedwydd (Canary).
Fe gafon nhw eu hachub gan wasanaeth achub morol Sbaen wrth beryglu eu bywydau yn ceisio cyrraedd Ewrop.
Canfuwyd cyfanswm o 106 o ffoaduriaid, gan gynnwys 44 o fenywod ac 20 o blant, mewn cychod oddiar yr Ynysoedd Dedwydd, Gran Canaria a Lanzarote, meddai’r gwasanaeth achub.
Cynnydd
Roedd pedwar cwch arall yn cludo 102 o ffoaduriaid eraill a oedd yn croesi’r Môr y Canoldir i dir mawr Sbaen. Roedd pob un ond un o’r bobl yn y cychod yn wrywaidd.
Mae Sbaen wedi gweld cynnydd o 49% gyda mewnfudwyr eleni o’i gymharu ag Ionawr-Awst 2020, yn ôl y weinyddiaeth fewnol.
Mae cyfanswm o 20,491 o bobl wedi cyrraedd tir Sbaen, yn bennaf ar y môr.
Dywed y Sefydliad Mewnfudo Rhyngwladol fod bron i 500 o fudwyr wedi marw neu wedi mynd ar goll wrth geisio cyrraedd Sbaen eleni.
Dywed grwpiau cymorth sy’n monitro llifoedd mudo fod y nifer wirioneddol yn debygol o fod yn llawer uwch gan nad yw rhai llongddrylliadau a boddi byth yn cael eu hadrodd.