Mae terfysgwr o Brydain, a ymunodd â’r Wladwriaeth Islamaidd, yn wynebu carchar am weddill ei oes ar ôl pledio’n euog i gyhuddiadau yn ei erbyn.

Roedd Alexanda Amon Kotey yn un o bedwar milwr oedd yn cael eu hadnabod fel “Beatles” ISIS oherwydd eu hacenion Prydeinig.

Roedden nhw’n adnabyddus am herwgipio a dienyddio nifer o bobol o’r Gorllewin ac o Japan, yn cynnwys dau Brydeiniwr.

Fe achosodd y llofruddiaethau arswyd o gwmpas y byd gan eu bod nhw’n cael eu darlledu yn fyw.

Fe wnaeth Kotey, sy’n cael ei adnabod fel ‘Jihadi Ringo’, bledio’n euog i wyth cyhuddiad mewn gwrandawiad llys yn Virginia ddydd Iau, 2 Medi.

Mae’n debyg ei fod wedi cytuno i gydweithredu’n llawn â’r awdurdodau fel rhan o’i gytundeb ple.

‘Ysgytwol’

Roedd Diane Foley – mam un o ddioddefwyr Kotey, James Foley – wedi ymddangos yn y llys, gan alw’r profiad yn un “ysgytwol.”

“Gefais i ddim unrhyw arwydd bod ganddo ddiddordeb yn gwneud iawn,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Ond gobeithiaf ymhen amser y bydd ganddo, wrth ystyried maint y drwg y mae wedi’i gyflawni – dw i ddim yn gwybod sut y gallai unrhyw enaid fyw gyda hynny i gyd.

“Hoffai pob un ohonon ni wybod ble mae cyrff ein plant.”