Mae Duges Sussex wedi cyhuddo Palas Buckingham o ledaenu “anwireddau” amdani hi a Harry.

Cafodd ei sylwadau eu datgelu cyn i gyfweliad Dug a Duges Sussex gydag Oprah Winfrey gael ei ddarlledu.

Dywedodd Meghan na allai’r Palas ddisgwyl iddi aros yn dawel os oedd y teulu brenhinol yn chwarae rhan mewn lledaenu “anwireddau” amdani hi a’i gwr.

Ychwanegodd: “os ydy hynny’n golygu’r risg o golli pethau… mae llawer wedi cael ei golli’n barod.”

Mae disgwyl i gyfweliad y cwpl gydag Oprah Winfrey ddatgelu manylion am eu cyfnod gyda’r teulu brenhinol cyn iddyn nhw gamu nol a symud i’r Unol Daleithiau.

Daw ei sylwadau wrth i Balas Buckingham gyhoeddi eu bod wedi lansio ymchwiliad i honiadau bod y dduges wedi bwlio cyn-aelod o’r staff brenhinol. Mae cyn-aelodau o staff a staff presennol yn cael eu gwahodd i drafod eu profiadau o weithio gyda Meghan yn sgil honiadau yn ei herbyn, er mwyn “gweld os oes gwersi i’w dysgu” meddai Palas Buckingham mewn datganiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Duges Sussex ei bod wedi “tristau gan yr ymosodiad diweddaraf yma ar ei chymeriad, yn enwedig gan ei bod wedi bod yn darged bwlio ei hun ac wedi’i hymrwymo i gefnogi eraill sydd wedi profi’r boen a’r trawma.”

Fe fydd y cyfweliad gydag Oprah Winfrey yn cael ei ddarlledu dros y penwythnos yn yr Unol Daleithiau.