Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn “bryderus” am sylwadau Boris Johnson, sydd wedi awgrymu y gallai teithiau rhyngwladol ailddechrau ym mis Mai.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai’n “codi’r waliau’n uwch am y tro” er mwyn atal dod ag amrywiaethau newydd o’r coronafeirws i’r Deyrnas Unedig.
Daw ei sylwadau yn sgil pryderon bod amrywiolyn newydd o Frasil wedi dod i’r Deyrnas Unedig ym mis Chwefror.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn gosod cyfyngiadau tynnach ar bobl sy’n cyrraedd o wledydd ar ‘restr goch’.
Ond mae gwladolion neu drigolion y Deyrnas Unedig wedi parhau i allu dychwelyd o Frasil gan ddefnyddio hediadau anuniongyrchol.
Gwneud y “gwrthwyneb” i Lywodraeth y DU
Dywedodd Mark Drakeford y byddai ef, yn yr achos hwn, yn gwneud y “gwrthwyneb” i Lywodraeth y DU.
Dywedodd Mr Drakeford: “Byddwn i’n gwneud y gwrthwyneb. Byddwn yn dweud na ddylem fod yn cael teithio rhyngwladol – ond dyma restr o wledydd lle rydym yn hyderus bod pethau dan reolaeth… lle mae cyfundrefnau profi, lle byddwn yn hyderus na fyddai pobl sy’n dychwelyd o’r fan honno yn fygythiad i ni.”
Fis Medi diwethaf, cafodd achosion Covid-19 yng Nghymru eu “gyrru i fyny yn ddi-os” yn rhannol am fod pobl yn dychwelyd o wyliau dramor ac wedi dod â’r feirws gyda nhw, meddai Mr Drakeford.
Ailddechrau teithiau rhyngwladol yn “fy mhoeni i’n fawr”
“Mae’n fy mhoeni i’n fawr i glywed y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn bwriadu ailddechrau teithiau rhyngwladol ym mis Mai eleni,” meddai Mr Drakeford.
“Roedd mis Medi yng Nghymru wedi’i wneud yn llawer anoddach oherwydd y ffaith ein bod ni wedi gweld llawer o achosion o’r firws o Ffrainc, Sbaen, Gwlad Groeg, Bwlgariad a Thwrci. Bob dydd, mi fydda’i yn darllen am achosion newydd ymhlith pobl sydd wedi mynd dramor, cael eu heintio a’r feirws a dod ag e’n ôl gyda nhw.
“Does dim amser gwell i fod yn aros gartref a mwynhau’r holl bethau arbennig sydd gan Gymru i’w cynnig,” meddai.
Ychwanegodd: “Mi fyswn i yn adeiladu’r waliau’n uwch am y tro yn erbyn y risg o ddod â’r gwahanol fathau o amrywiolion i’r wlad, a allai fod yn cronni mewn rhannau eraill o’r byd, gan beryglu’r holl waith ry’n ni wedi’i wneud i drïo cadw Cymru’n ddiogel.”
Roedd Mark Drakeford yn siarad mewn cyfarfod rhithiol i nodi Dydd Gŵyl Dewi gyda busnesau Cymru ac arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer.
Dywedodd Mr Starmer: “Mae’n dangos arafwch y Llywodraeth i gau hyd yn oed y prif lwybrau, ond hefyd yr amharodrwydd i wynebu’r ffaith nad yw’r feirws yn teithio drwy hediadau uniongyrchol yn unig.
“Rydyn ni’n gwybod, o’r haf diwethaf, bod llawer o’r feirws wedi dod i mewn nid [yn uniongyrchol] o’r gwledydd lle’r oedd yn tarddu, ond roedd pobl yn dod yn anuniongyrchol – dyna’r ffordd mae pobl yn teithio.”
Ymateb gwrthbleidiau Cymru
Dywedodd Andrew RT Davies wrth y BBC fod Prif Weinidog Cymru yn “llawn aer poeth”.
“Beth am beidio ag anghofio,” meddai, “nôl ym mis Mehefin diwethaf, pan oedd Ryanair yn hedfan hediadau [i Gaerdydd] o Faro a Malaga.”
Yr “oll a wnaeth” Llywodraeth Cymru mewn ymateb, meddai Andrew RT Davies “oedd ysgrifennu llythyr”.
Ond roedd Helen Mary Jones o Blaid Cymru yn ochri gyda Phrif Weinidog Cymru gan ddweud “nad dyma’r amser ar gyfer teithio rhyngwladol” ac y dylai cyfyngiadau aros yn dynn am y tro.
“Un o’r cyfundrefnau ffin caletaf unrhyw le yn y byd”
O’i ran ef, mae Boris Johnson wedi mynnu bod gan y Deyrnas Unedig “un o’r cyfundrefnau ffin caletaf unrhyw le yn y byd” er bod straen coronafeirws Brasil wedi cael ei ganfod yma.
A honnodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth wedi “symud mor gyflym ag y gallem” i lansio ei pholisi cwarantîn mewn gwesty.
Dim ond ar 15 Chwefror y gweithredwyd y gofyniad i bobl gyflawni eu cyfnod cwarantin 10 diwrnod mewn gwesty ar ol cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd ‘rhestr goch’ – tua mis ar ôl i bryderon am amrywiolyn Brasil ddod yn gyffredin.
Daeth yr amrywiolyn i’r amlwg ym Mrasil ym mis Tachwedd.
Dywedodd Mr Johnson wrth ohebwyr: “[Mae gennym] un o’r cyfundrefnau ffin caletaf yn y byd am atal pobl rhag dod i mewn i’r wlad hon a allai fod ag amrywiolion sy’n peri pryder.”
Pan ofynnwyd iddo a oedd y Llywodraeth yn rhy araf i weithredu mesurau gwesty cwarantîn, atebodd Prif Weinidog Prydain: “Dydw i ddim yn meddwl – symudwyd mor gyflym ag y gallem i roi hynny ar waith.
“Mae’n drefn galed iawn – rydych chi’n dod yma, rydych chi’n cael eich cludo ar unwaith i westy lle cewch eich cadw am 10 diwrnod, 11 diwrnod.
“Mae’n rhaid i chi gael prawf ar yr ail ddiwrnod, mae’n rhaid i chi gael prawf ar ddiwrnod wyth, ac mae wedi’i gynllunio i atal lledaeniad amrywiolion newydd wrth i ni barhau i gyflwyno’r rhaglen frechu.”