Bydd pobol sydd yn byw ar eu pennau eu hunain – mewn ardaloedd sydd dan glo – yn medru cwrdd ag un aelwyd arall dan do.

Dyna mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi ei gyhoeddi’r bore yma wrth siarad ar y rhaglen BBC Breakfast.

“Rydym yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r effaith mae [cyfyngiadau lleol] yn eu cael ar oedolion sydd yn byw ar eu pennau eu hunain,” meddai.

“Ac rydym yn llacio cyfyngiadau fel bod cartrefi ag ond un oedolyn ynddyn nhw yn medru cynghreirio ag un cartref arall o fewn ardal eu sir.

“Llacio rhywfaint o’r teimlad o unigrwydd o beidio â medru siarad ag unrhyw un arall – dyna yw’r syniad.”

Ategodd bod coronafeirws yn “achosi niwed mewn mwy nag un ffordd a gallwn wneud gwahaniaeth i les meddyliol pobol gyda’r newid yma.”

Bydd Mark Drakeford yn cynnal cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, ac mae’n dra debygol y bydd yn ymhelaethu ymhellach ar y llacio.

Y drefn

Mae 16 ardal wahanol yn y gogledd a’r de bellach dan glo, ac mae hynny’n golygu bod 2.3 miliwn o Gymry – sef mwyafrif y boblogaeth – dan gyfyngiadau llymach.

Yn yr ardaloedd yma mae’r gallu i ffurfio aelwydydd estynedig – hynny yw, pedwar cartref sy’n medru dod ynghyd – wedi dod i ben am y tro.

Yn yr Alban mae person sydd yn byw ar ei ben ei hun, neu gyda phlant sy’n iau nag 18 oed, yn medru cwrdd dan do â phobol o un aelwyd arall.