Mae Llywodraeth Cymru yn annog teuluoedd i ystyried y gwahanol opsiynau cludiant sydd ar gael ar gyfer disgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf.
Mae disgyblion sy’n teithio i’r ysgol ar gludiant cyhoeddus hefyd yn cael eu hannog i feddwl am bobl eraill ac i ymddwyn yn gyfrifol.
Yn y cyfamser, mae defnyddwyr eraill trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu hannog i geisio osgoi teithiau nad ydynt yn hanfodol oddeutu dechrau a diwedd y diwrnod ysgol.
“Rydyn ni’n dechrau tymor newydd mewn amgylchiadau dieithr ac felly mae’n hanfodol bod teuluoedd yn ystyried yr opsiynau gorau sydd ar gael iddyn nhw”, meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth.
“Nid oes dull addas i bawb o ran cludiant i’r ysgol, a bydd gan deuluoedd amrywiol amgylchiadau i’w hystyried.
“Mewn nifer o ardaloedd o Gymru, gallai fod yn fwy priodol i gerdded neu feicio i’r ysgol.
“Rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus i helpu i gynnal cwmnïau, ond ni allwn ddianc rhag y ffaith bod y coronafeirws wedi tarfu’n sylweddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £10 miliwn i helpu’r diwydiant bysiau gael mwy o deithwyr i’r ysgol, y coleg a’r gwaith, gan adeiladu ar becynnau cyllido blaenorol ar gyfer bysiau a threnau.
Bwriad y cyllid hwn yw i alluogi awdurdodau lleol i ychwanegu at y gwasanaethau rheolaidd oedd yn bodoli eisoes.
Gorchudd wyneb ar drafnidiaeth cyhoeddus
Ers mis Gorffennaf, mae’n ofynnol i bobol wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Argymhelliad Prif Swyddog Meddygol Cymru yw i bob aelod o’r cyhoedd dros 11 oed wisgo masg mewn lleoliadau dan do lle na ellir cynnal pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion a chludiant ysgol.