Bydd y Blaid Lafur yn talu “iawndal sylweddol” i’r rhai a gyfrannodd at ddatgelu gwrth-Semitiaeth ar y teledu, wrth i’r arweinydd Syr Keir Starmer barhau ag ymdrechion i roi pellter rhwng y blaid a’i ragflaenydd Jeremy Corbyn.

Cyhoeddodd y blaid ymddiheuriad hefyd dros “honiadau difenwol a ffug” yn dilyn ymchwiliad gan raglen Panorama y BBC.

Fe wnaeth saith o gyn-weithwyr oedd yn gweithio yn Uned Llywodraethiant a Chyfreithiol y blaid, a oedd yn gyfrifol am ymchwilio i honiadau o gamymddwyn gan aelodau’r blaid, erlyn y blaid Lafur ar ôl iddi gyhoeddi datganiad i’r wasg yn dweud fod eu bwriadau yn “bersonol a gwleidyddol”.

Daw’r camau cyfreithiol yma yn dilyn y darllediad ym mis Gorffennaf 2019 o raglen Panorama gan y BBC o’r enw ‘A yw Llafur yn wrth-semitig?’

Yr achos

Clywodd yr Uchel Lys heddiw (dydd Mercher, Gorffenaf 22) fod gan Katherine Buckingham, Michael Creighton, Samuel Matthews, Daniel Hogan, Louise Withers Green, Martha Robinson a Benjamin Westerman bryderon fod “diffyg ymrwymiad” gan Lafur i ymchwilio’n briodol i wrth-Semitiaeth o fewn y blaid.

Mewn gwrandawiad byr yn Llundain, dywedodd eu bargyfreithiwr William Bennett QC eu bod nhw’n “feirniadol iawn o ddull y Blaid Lafur o fynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth o fewn ei rhengoedd”.

“Cyn darlledu’r rhaglen Panorama, cyhoeddodd y Blaid Lafur ddatganiad i’r wasg a oedd yn cynnwys honiadau difenwol a ffug am y chwythwyr chwiban,” meddai.

Dywedodd William Bennett ymhellach fod Llafur “wedi cyhuddo’r chwythwr chwiban o fod wedi gweithredu yn anonest yn ystod ac ar ôl eu cyflogaeth gyda’r bwriad o niweidio’r Blaid Lafur”, honiadau a oedd yn “anwiredd a difenwol”, meddai.

Yn yr un gwrandawiad, ymddiheurodd Llafur hefyd wrth John Ware, y newyddiadurwr a wnaeth y rhaglen Panorama, am ei gyhuddo ar gam o “gamsylwadau bwriadol a maleisus gyda’r bwriad o gamarwain y cyhoedd”.

Dywedodd William Bennett fod y Blaid Lafur wedi honni bod John Ware “wedi dyfeisio dyfyniadau, plygu moeseg newyddiadurol a hyrwyddo anwiredd yn fwriadol wrth fynd ar drywydd canlyniad a benderfynwyd ymlaen llaw i’r cwestiwn a ofynnwyd gan raglen Panorama”.

Ychwanegodd fod y blaid hefyd wedi cytuno i dalu “iawndal sylweddol” i John Ware.

Gwrth-Semitaidd

“Heddiw yn yr Uchel Lys, tynnodd y Blaid Lafur yn ôl eu honiadau ffug a wnaed am raglen Panorama yn gofyn a oedd Llafur yn wrth-Semitaidd,” meddai Mark Lewis, cyfreithiwr yr hawlwyr, mewn datganiad.

“Roedd yr ateb yn glir, ‘ydi ‘. Dewisodd Llafur ymosod ar gyflwynydd y rhaglen, John Ware, a’r chwythwyr chwiban yn hytrach na rhoi sylw i wirionedd y broblem.

“Mae’n eironig fod plaid y gweithwyr wedi dewis gweithredu fel penaethiaid anfodlon oedd wedi cael eu dal.”

Mae ymdriniaeth Llafur o gyhuddiadau gwrth-Semitiaeth dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac mae Syr Keir Starmer eisoes wedi derbyn adroddiad drafft gan y Corff Gwarchod.

Dywed y blaid fod Llafur, o dan arweiniad Syr Keir Starmer ac Angela Rayner, “wedi ymrwymo i fynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth”.

“Rydym yn croesawu’r penderfyniad gan y Blaid Lafur i dynnu’n ôl ac ymddiheuro am y datganiadau difenwol a wnaed yn erbyn saith o’r datgelwyr dewr a dynnodd sylw’r cyhoedd am raddfa’r gwahaniaethu yn erbyn Aelodau Llafur Iddewig,” meddai’r Mudiad Llafur Iddewig.

“Mae’n adlewyrchiad trist o’i rôl hanesyddol fel y blaid y gweithwyr fod Llafur wedi ceisio tawelu ei chyn weithwyr am siarad yn erbyn hiliaeth.”