Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnu ar eu cynlluniau gwreiddiol i greu canolfannau newydd sbon i ddosbarthiadau Chweched Dosbarth y sir, gan droi yn hytrach at gyfuniad o wersi wyneb-yn-wyneb a dysgu ar-lein.
Eu bwriad ym mis Tachwedd y llynedd oedd i uno rhai Chweched Dosbarth o wahanol ysgolion oedd yn rhy fach i fod yn hyfyw yn ariannol, yn ogystal a chreu uned newydd er mwyn gallu cynnig yr amrediad gorau posib o gyrsiau i’r disgyblion.
Ond bellach, ac yn rhannol yn dilyn y cyfnod o addysgu gartref yn ystod y pandemig, mae’r Cyngor wedi penderfynu trefnu gwersi ar y cyd ar-lein yn ogystal â chadw’r dosbarthiadau Chweched presennol ar agor.
Yn ôl y Cyngor, mae’r cyfnod clo wedi dangos bod addysgu dosbarthiadau ar-lein yn llwyddo, felly bydd disgwyl i’r ysgolion weithio ar y cyd i greu amserlenni a phrosbectws newydd sydd yn cyd-redeg â’i gilydd er mwyn gallu addysgu disgyblion chweched dosbarth o wahanol ysgolion ar y cyd ar-lein.
Er hyn, dydy Cyngor Pen-y-Bont ar Ogwr ddim wedi diystyru campws Chweched Dosbarth newydd yn llwyr, ac yn dweud fod posib edrych ar syniad o’r fath pe byddai lleoliadau addas yn dod ar gael yn y dyfodol.