Mae Llywodraeth Iwerddon wedi hepgor Prydain wrth lunio rhestr “werdd” o’r gwledydd mae’n ddiogel teithio iddyn nhw.
Ond ddylai pobl ddim mynd ar wyliau dramor eleni er gwaetha’r rhestr, meddai Gweinidog Materion Tramor Iwerddon.
Ymhlith y gwledydd ar y rhestr mae’r Eidal a Gwlad Groeg.
Fydd pobol sy’n cyrraedd o ynys Melita, y Ffindir, Norwy, yr Eidal, Hwngari, Estonia, Latfia, Lithwania, Cyprus, Slofacia, Gwlad Groeg, Greenland, Gibraltar, Monaco a San Marino yn gorfod ynysu am bythefnos, a fydd pobol sy’n croesi’r ffin o Ogledd Iwerddon am gael unrhyw gyfyngiadau.
Mae’n ofynnol i eraill sy’n cyrraedd o dramor, ac eithrio gweithwyr cadwyn gyflenwi hanfodol, lenwi ffurflen lleoli teithwyr a bod mewn cwarantîn am 14 diwrnod.
Cyngor yn glir
Dywedodd Simon Coveney fod cyngor y Llywodraeth ar deithio nad yw’n hanfodol yn glir.
“Mae’r neges gan y Llywodraeth yn dal yn glir, mai’r peth mwyaf diogel i’w wneud yw peidio â mynd ar eich gwyliau dramor. I ofalu am eich teulu, arhoswch gartref a gwario eich arian gartref a gwyliau gartref, “meddai wrth RTE Morning Ireland.
Dywedodd Simon Coveney fod 50,000 o bobol yr wythnos yn gadael Gweriniaeth Iwerddon i fynd dramor.
Dywedodd os yw pobl yn teithio drwy faes awyr ymlaen i gyrchfan arall, mai dyma’r cyrchfan y maen nhw yn hedfan iddo neu’r cyrchfan y maen nhw yn tarddu ohono sydd ar y “rhestr werdd”.
Bydd protocolau mewn meysydd awyr yn fwy cadarn i ddelio â lledaeniad Covid-19 ac fe fydd ar waith cyn Awst 10, meddai.
Mae’n cynnwys cyflwyno ffurflen lleoli teithwyr electronig, gweithdrefnau dilynol gwell a threfn brofi arfaethedig ar gyfer teithwyr â symptomau mewn meysydd awyr a phorthladdoedd.
“Rydym hefyd yn ychwanegu’n sylweddol at y protocolau mewn meysydd awyr bellach o ran yr hyn rydym yn ei ofyn,” meddai.
“Rydym yn mynd i symud y ffurflen lleoli teithwyr ar-lein nawr er mwyn ei gwneud yn llawer mwy cywir.
“Mae’r systemau rydym yn eu rhoi ar waith yn dod yn fwy cadarn drwy’r amser, gan ddelio â phroblemau capasiti ac yn y blaen. Roedd rhwymedigaeth ar y Llywodraeth i sicrhau bod y cyngor ar deithio yn gywir ac yn gysylltiedig â lefelau risg a data yn hytrach na negeseuon cyffredinol.”
Mae disgwyl i Brydain a’r Unol Daleithiau gael eu heithrio, gan mai dim ond llefydd â chyfradd heintio coronafeirws yr un fath neu’n is nag Iwerddon sydd ar y rhestr.
Cyngor yn aneglur
Ond labelwyd y rhestr yn ddryslyd gan wrthbleidiau cyn ei rhyddhau, ac maen nhw’n cyhuddo’r Llywodraeth o rannu negeseuon cymysg gan eu bod wedi cyhoeddi’r rhestr er eu bod yn dal i argymell teithio heb fod yn hanfodol i unrhyw le y tu allan i Iwerddon.
Dywedodd cyd-arweinydd y Democratiaid Cymdeithasol Roisin Shortall mai’r “gwendid mawr” yn ymateb pandemig Iwerddon yw’r methiant i reoli mewnforio’r firws o dramor.
“Mae’r cyhoeddiad a addawyd o’r rhestr werdd ar gyfer gwledydd a ystyrir eu bod yn ddiogel tra ar yr un pryd yn cynghori yn erbyn pob teithio nad yw’n hanfodol yn anghyson,” meddai.
Cafodd 36 o achosion newydd o coronafeirws yn Iwerddon eu cyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 21), sy’n golygu cyfanswm o 25,802.
Doedd dim marwolaethau ychwanegol wedi’u cadarnhau ddoe, gyda’r cyfanswm yn aros ar 1,753.