Yng Nghatalwnia ac ardaloedd eraill yn Sbaen, mae system synhwyro cynnar oedd i fod i ddarganfod ac atal achosion o’r coronafeirws yn ymddangos yn annigonol, yn ôl meddygon a chleifion.
Cyflwynodd Sbaen gyfnod clo o dri mis yn gynharach eleni i ffrwyno’r don gyntaf o heintiau a achosodd o leiaf 28,000 o farwolaethau.
Erbyn hyn, mae Barcelona ac ardal amaethyddol yn yr un rhanbarth yng Nghatalwnia wedi dod yn ddwy ardal a gafodd eu taro galetaf gan atgyfodiad y feirws.
“Rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion a’r heintio cymunedol sy’n ein poeni,” meddai Dr Jacobo Mendioroz, yr epidemiolegydd sy’n gyfrifol am drin feirysau Catalwnia.
“Mae’n dal yn bosibl gwella’r system olrhain.
“Erbyn hyn, mae gennym 300 ac rydym yn mynd i ychwanegu 600 arall yn fuan.”
Hyd yn hyn, mae 28,424 o farwolaethau wedi eu cofnodi o ganlyniad i’r coronafeirws yn Sbaen, a 5,678 yng Nghatalwnia.