Mae Donald Trump wedi cyhoeddi y bydd brechlynnau yn dechrau cael eu profi yn y wlad cyn gynted ag wythnos nesaf.
Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi ceisio peintio darlun mwy ffafriol o’r pandemig coronafeirws, ond mae’n cyfaddef fod y sefyllfa’n debygol o waethygu am gyfnod wrth iddo adfywio ei sesiynau briffio dyddiol.
“Mae’n debyg y bydd yn mynd yn waeth cyn iddi wella,” meddai’r Arlywydd Trump o’r Tŷ Gwyn, ond fe wnaeth e grybwyll hefyd y gostyngiad yn nifer y marwolaethau a chynnydd ar frechlynnau a thriniaethau ar gyfer Covid-19, y cyfeiriodd Trump atynt dro ar ôl tro fel y “firws Tsieina”.
Parhaodd hefyd i annog Americanwyr i wisgo mygydau pan nad yw cadw pellter cymdeithasol yn bosibl, gan ddweud “p’un a ydych chi’n hoffi’r mwgwd ai peidio, maen nhw’n cael effaith”.
Gyda thri mis cyn diwrnod yr etholiad, mae Donald Trump yn gobeithio y bydd sylw o’r podiwm yn ei roi ar y blaen yn erbyn yr ymgeisydd Democrataidd Joe Biden.
Brechlyn
Ymddangosodd yn y Tŷ Gwyn ar ei ben ei hun, heb yr arbenigwyr meddygol nac arbenigwyr cyflenwi’r Llywodraeth y mae wedi bod yn dibynnu arnyn nhw cyn hyn i esbonio ei ymateb i’r argyfwng iechyd cyhoeddus.
“Mae’r brechlynnau yn dod, ac maen nhw’n dod yn llawer cynt nag oedd unrhyw un yn meddwl yn bosibl,” addawodd.
Mor fuan â’r wythnos nesaf, bydd y brechlyn cyntaf posibl i’r Unol Daleithiau yn cael ei ddefnyddio i ddechrau cynnal profion cam terfynol mewn astudiaeth o 30,000 o bobol i weld a yw’n wirioneddol ddiogel ac effeithiol.
Mae nifer o frechlynnau eraill wedi dechrau dod yn destun astudiaethau llai mewn gwledydd eraill, ac yn yr Unol Daleithiau, mae’n fwriad cynnal cyfres o astudiaethau enfawr i ddechrau bob mis drwy’r hydref yn y gobaith o gael sawl brechlyn i’w defnyddio yn y pen draw.
Eisoes, gall pobol ddechrau ymrwymo i wirfoddoli ar gyfer y gwahanol astudiaethau, ond mae awdurdodau iechyd yn rhybuddio nad oes sicrwydd, ac nid yw’n anarferol i frechlynnau fethu yn ystod y cam profi pwysig hwn.
Ond mae gwneuthurwyr brechlynnau a swyddogion iechyd yn obeithiol y gallai o leiaf un brechlyn fod yn gweithio erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae cwmnïau eisoes yn cymryd y cam anarferol o fragu cannoedd o filiynau o ddosau fel y gellid dechrau brechu ar raddfa fawr os bydd y weinyddiaeth fwyd a chyffuriau yn llofnodi i ddechrau.