Mae’r heddlu wedi canmol dewrder anferthol myfyriwr o Lanelli a ruthrodd i’r môr i achub dyn.

Roedd yr Uwcharolygydd Ifan Charles, un o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, yn cyfarfod â Tom Williams, Ciaran Phillips a Morgan Discombe-Hughes i ddiolch iddyn nhw am eu gweithredoedd wedi i ddyn fynd i drafferthion ar ymyl y dŵr.

Roedd y bechgyn pedair ar bymtheg oed yn mwynhau noson ar draeth Llanelli pan sylwon nhw ar ddyn yn cerdded ar hyd y creigiau mewn ardal anghysbell.

Pan syrthiodd a tharo’i ben, rhuthrodd Tom draw i helpu a’i dynnu allan o’r môr tra roedd ei ffrindiau’n galw am help.

“Roedden ni jyst yn eistedd ar y traeth pan welsom ni’r dyn yn cerdded ar draws y creigiau. Roeddem yn meddwl ei fod yn lle rhyfedd i fod yn cerdded, yna yn sydyn fe syrthiodd” meddai’r  myfyriwr Bioleg Môr a Oceanoleg Prifysgol Bangor.

“Rhedais draw i weld a oedd e’n iawn, ac roedd e’n anymwybodol gyda’i ben yn y dŵr. Llwyddais i’w godi allan a’i droi ar ei gefn fel y gallwn wneud yn siŵr nad oedd yn gwaedu. ”

Er gwaethaf help Tom a’r perygl y gallai’r llanw godi, o fewn munudau roedd y dyn wedi gwneud ei ffordd yn ôl i’r dŵr. Gan aros yn ddigyffro, dechreuodd Tom siarad ag ef mewn ymgais i’w gael i ddiogelwch, tra’r oedd ei ffrindiau yn galw 999 am gymorth.

“Llwyddais i’w siarad o’r dŵr,” meddai Tom, o Felinfoel. “Fe ddaeth ac eistedd wrth fy ymyl, ac roeddwn yn siarad ag ef am bethau arferol – unrhyw beth a ddaeth i’r meddwl. Dydw i ddim yn siŵr beth oeddwn i’n ei feddwl, ond roeddwn i’n gwybod bod angen i mi wneud rhywbeth.

Cymorth yn cyrraedd

“Yn y lle cyntaf roedd yn eithaf gwyllt, ac roedd yn amlwg ei fod dan straen, ond wedyn newidiodd ei ffordd yn gyfan gwbl. Roedd fel petai’n newid yn llwyr – Edrychodd allan ar y môr a dywedodd pa mor neis oedd yr olygfa. Dyna pryd roeddwn i’n gwybod ei fod yn iawn.”

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys, gwasanaeth ambiwlans Cymru, Gwylwyr y Glannau a’r RNLI eu hanfon i’r fan, lle roedd torf enfawr wedi ymgasglu i’w gwylio.

Ar ôl cyrraedd, bu personél yr heddlu a gwylwyr y Glannau yn helpu i gael y dyn dros 20 troedfedd o dir creigiog yn ôl i lwybr yr arfordir.

“Fe es i gyflwr o sioc yn syth ar ôl,” meddai Tom. “Rwy’n credu bod yr adrenalin wedi’i dod i ben ac roeddwn i wedi fy ysgwyd am ddiwrnod neu ddau ar ôl hynny. Roeddwn i’n gweithio fy hun  i fyny dim ond meddwl am y peth.

“Rwy’n iawn gyda’r hyn a ddigwyddodd nawr. Rwy’n gwybod fy mod wedi gwneud y peth iawn, a dim ond meddwl ei fod mor lwcus ein bod ni yno a’n bod wedi ei weld yn disgyn.”

Canmol

Fe aeth Ifan Charles, Uwcharolygydd Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer Sir Gaerfyrddin, i gwrdd â Tom a’i ffrindiau ar ôl y digwyddiad i’w canmol am eu gweithredoedd.

“Does dim amheuaeth fod y grŵp yma o gyfeillion wedi achub bywyd dyn, a hoffwn ddiolch o galon am eu cymorth ar y noson honno,” meddai.

“Mae dewrder Tom yn rhedeg i helpu heb betruso, a galwad cyflym Ciaran a Morgan i’r gwasanaethau brys, yn haeddu’r ganmoliaeth eithaf.

“Ni all fod wedi bod yn beth hawdd i’w wneud, ond dylai’r tri fod yn hynod falch o’u gweithredoedd anhunanol.”