Cafodd dau ddyn eu harestio’r wythnos ddiwethaf ar ôl bod yn gyrru ar gyflymdra o fwy na 100m.y.a. ac ar ochr anghywir y ffordd wrth i’r heddlu orfod mynd ar eu holau am ddeg milltir.
Cafodd dau o geir Heddlu Dyfed-Powys eu difrodi gan y Vauxhall Astra ar Orffennaf 15, ar ôl i’r gyrrwr fynd yn ei flaen er i’r heddlu orfod defnyddio pigwyr ar y ffordd i geisio’u hatal.
Gyda mwg yn dod o’r teiars, a’r gyrrwr yn dal i dorri’r terfyn cyflymder, doedd gan y swyddogion ddim dewis ond ceisio dod â’r cyfan i ben drwy amgylchynu’r car.
“Daethpwyd â sylw swyddogion at gar ychydig y tu allan i Aberystwyth, oedd yn gyrru’n rhy gyflym ar yr A44 ac yn methu stopio pan ofynnwyd iddo” meddai Sarjant Rob Hamer yn ardal y Drenewydd.
“Roedd adroddiadau bod dau ddyn yn y car, a chafodd swyddogion plismona ffyrdd gogledd Powys eu hanfon i’w hatal.
“Pasiodd un o’n ceir yr Astra, a oedd yn anelu ar yr A470 tuag at Lanidloes.
“Roedd y car yn torri’r terfyn cyflymder – gan fynd dros 100mya – ac ar adegau, roedd yn teithio ar ochr anghywir y ffordd.
“O ystyried ymddygiad byrbwyll y gyrrwr, roedd y perygl o wrthdrawiad difrifol yn uchel.”
Dod i stop
Cafodd pigwyr eu defnyddio, ond parhaodd y gyrrwr ar gyflymder eithriadol o uchel.
O’r diwedd daeth swyddogion â’r car i stop drwy ei ‘focsio’ rhwng dau gar heddlu.
“Aeth y car dros y pigwr ar gyflymder uchel, a rhywsut llwyddodd y gyrrwr i gario ymlaen ar 70mya cyn arafu ychydig i 60mya. Roedd mwg yn dod o’r teiars, a oedd yn disgyn yn ddarnau erbyn hynny.
“Cafodd y gyrrwr wrthdrawiad ag un o’n cerbydau, a chafodd y ddau gerbyd traffig eu dinistrio wrth ei ‘focsio’.”
Cafodd dau ddyn eu harestio yn y fan a’r lle.
Cafodd y gyrrwr 22 oed ei arestio ar amheuaeth o fod â chanabis yn ei feddiant, o yrru’n beryglus, o yrru tra nad oedd mewn cyflwr derbyniol trwy ddiod neu gyffuriau, o yrru tra’n anghymwys ac o fethu â stopio i’r heddlu.
Cafodd fechnïaeth gydag amodau i beidio â dod i mewn i Gymru.
Mae’r teithiwr 29 oed wedi’i ryddhau heb unrhyw gamau pellach gan yr heddlu.