Mae ffoaduriaid gafodd eu hachub o gwch ar y Sianel yn derbyn triniaeth am effeithiau’r oerfel.
Fe wnaeth eu cwch foelyd yn y môr, a bu’n rhaid i fferi a’r Llynges Ffrengig eu hachub a’u cludo nhw i Calais.
Dywed yr awdurdodau eu bod nhw bellach yn iawn, ond maen nhw’n rhybuddio am beryglon teithio ar y môr rhwng Prydain a Ffrainc.
Daw’r adroddiadau diweddaraf ar ôl i awdurdodau Ffrainc ddymchwel gwersyll ffoaduriaid ger Calais, gan orfodi mwy na 500 o bobol i symud oddi yno.
Mae grwpiau hawliau dynol wedi mynegi pryder am yr adroddiadau, gan ddweud y gallai eu niweidio’n gorfforol a meddyliol, ac nad yw symud pobol oddi ar wersyll yn llwyddo i ddatrys problemau ehangach ers dros ddegawd.
Mae grwpiau dyngarol yn cyhuddo’r awdurdodau o weithredu ar frys i gais gan Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, am ymateb i sawl ymgais diweddar i groesi’r Sianel, gan fynegi pryder bod troseddwyr yn manteisio ar y môr i ddod i wledydd Prydain.