Mae Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi cyfnewid dedfryd ei gyn-ymgynghorydd o 40 mis o garchar am ddedfryd lai.
Cafodd Roger Stone ddedfryd o 40 mis o garchar am ei ran mewn ymchwiliad i ymddygiad Rwsia ac am ddweud celwydd wrth y Gyngres, ymyrryd â thystiolaeth a tharfu ar yr ymchwiliad i’r berthynas rhwng Rwsia ac ymgyrch arlywyddol Donald Trump yn 2016.
Roedd disgwyl iddo fe fynd i’r carchar ddydd Mawrth (Gorffennaf 14).
Ond yn ôl gweinyddiaeth Donald Trump, roedd e wedi dioddef yn sgil digwyddiad “ffug”.
Er na chafodd e bardwn, fe fydd gweithred yr arlywydd yn codi cwestiynau am ei ymyrraeth barhaus yn system gyfiawnder yr Unol Daleithiau.
Mae cyfnewid dedfryd yn atal rhywun rhag treulio dedfryd lawn yn y carchar, ond dydy e ddim yn gyfystyr â phardwn, sy’n dileu collfarn.
Achos Roger Stone
Mae Donald Trump wedi bod yn llafar am achos Roger Stone ers y dechrau’n deg.
Cyn iddo gael ei ddedfrydu, awgrymodd yr arlywydd ar Twitter ei fod e’n cael ei drin yn wahanol i sawl Democrat blaenllaw.
Dywedodd y dylid dileu’r gollfarn, gan ddweud bod penderfyniad gwreiddiol yr Adran Gyfiawnder “yn ofnadwy ac annheg iawn”, gan eu cyhuddo o gamweinyddu cyfiawnder.
Roger Stone yw’r chweched ymgynghorydd yng ngweinyddiaeth Donald Trump i’w gael yn euog mewn perthynas â’r ymchwiliad i ymyrraeth Rwsia yn yr etholiad arlywyddol.
Roedd Roger Stone wedi bod yn brolio’i gyswllt â Julian Assange drwy gydol yr ymgyrch, ond fe wadodd unrhyw ran yn yr helynt WikiLeaks.