Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod y ffaith bod eu Tîm Taclo Troseddau Gwledig yn tyfu, yn brawf o’u hymrwymiad i helpu cymunedau cefn gwlad.

Fe gafodd y tîm ei ffurfio yn 2018 fel rhan o strategaeth y llu i fynd i’r afael â throseddau gwledig.

Bydd y blismones Miranda Whateley yn ymuno gyda Charlie Jones a Gary Gwilt i ffurfio tîm o dri yn gweithredu ym Mhowys.

“Unwaith y daw’r cyfyngiadau presennol i ben, rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod ffermwyr yn ein marchnadoedd anifeiliaid ym Mhowys,” meddai Miranda Whateley.

“Hefyd rwyf yn gobeithio gallu pwysleisio pwysigrwydd gwarchod ein cefn gwlad prydferth ym Mhowys, i ymwelwyr sy’n dod i’r ardal.”

Mae gan y tîm ddau dryc 4×4 Ford Ranger, er mwyn cyrraedd mannau mwyaf anghysbell Powys, y sir fwyaf yng Nghymru sy’n mesur tua 2,000 milltir sgwâr.