Bydd Aelod Seneddol Ynys Môn yn ymuno gyda’r awyrlu er mwyn “deall yr heriau mae ein milwyr dewr yn eu hwynebu.”
Trwy ‘Rhaglen Seneddol y Fyddin’ mi fydd Virginia Crosbie yn treulio 30 o ddiwrnodau – wedi’u rhannu dros gyfnod o amser – yn cwblhau cwrs hyfforddi dwys.
Mae ASau yn rhydd i ddewis pa bynnag gangen o’r fyddin yr hoffan nhw hyfforddi â hi, ac mae’r AS Ceidwadol wedi dewis hyfforddi gyda’r Llu Awyr Brenhinol (RAF).
Ar ben arall y cwrs mi fydd yn graddio ar yr un lefel â Squadron Leader. Wrth gyhoeddi’r newyddion mae wedi tynnu sylw at bencadlys y Llu Awyr yn Ynys Môn.
Awyrlu’r Fali yn “allweddol”
“Dw i wir yn edrych ymlaen at fedru deall yr heriau mae ein milwyr dewr – heb os, y gorau yn y byd – yn eu hwynebu,” meddai.
“Bydd hyn yn sicrhau fy mod yn siarad â llais cryfach pan ddaw at sefyll dros ein harwyr lleol yn Llu Awyr Brenhinol Y Fali.
“Mae Llu y Fali yn rhan allweddol o’n cymuned yma ar Ynys Môn, ac rydw i yn awyddus i wneud popeth y galla’ i, er mwyn sicrhau dealltwriaeth fwy eang o’r gwasanaeth a’i bersonél.”
Mae Virginia Crosbie hefyd wedi ymrwymo i ddysgu siarad Cymraeg.