Mae Downing Street wedi cyhoeddi bod cynadleddau dyddiol y wasg ar y coronafeirws yn dod i ben.

Yn lle hynny, maen nhw wedi penderfynu y bydd cynadleddau yn cael eu cynnal i “gyd-fynd â chyhoeddiadau mawr”.

Mae cynadleddau dyddiol wedi eu cynnal yn Stryd Downing er mwyn ateb cwestiynau gan y wasg a’r cyhoedd am ddatblygiadau yn ymwneud â’r coronafeirws ers Mawrth 16.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn penderfyniad Downing Street yn gynharach fis yma na fyddai cynadleddau dyddiol yn cael eu cynnal ar benwythnosau gan fod ffigurau gwylio yn “sylweddol is”.

“O heddiw ymlaen, ni fydd cynadleddau’r wasg yn digwydd yn ddyddiol,” meddai llefarydd.

“Byddwn yn parhau i gynnal cynadleddau i’r wasg i gyd-fynd â chyhoeddiadau sylweddol, gan gynnwys gyda’r Prif Weinidog.

“Byddwn yn cyhoeddi’r holl ddata sydd wedi’i gynnwys o’r blaen yn sleidiau cynhadledd y wasg ar wefan y Llywodraeth bob dydd wythnos.”

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson arwain y gynhadledd olaf i’r wasg y prynhawn yma (Mehefin 23).

Llacio’r gwarchae yn Lloegr

Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau’r gwarchae yn cael eu llacio yn Lloegr o Orffennaf 4 – ond fydd y newidiadau ddim yn berthnasol i Gymru.

Bydd preswylwyr dau dŷ yn cael ymgynnull dan do, gan gynnwys mewn tafarndai a bwytai, ond bydd yn rhaid iddyn nhw ddilyn rheolau ymbellháu cymdeithasol.

Bydd y rheol dau fetr yn cael ei llacio, gyda rheol “un metr a mwy” yn dod i rym.

Mae disgwyl y cyhoeddiad nesaf ynglŷn â’r gwarchae yng Nghymru ar Orffennaf 6.