Tybed beth yw Silly Season yn Gymraeg? Wel, r’yn ni yng nghanol hwnnw ar hyn o bryd (pam arall fyddai Rhan i Dan wedi cael cymaint o sylw?) ac mae’n ryddhad i ddweud na fydda i wrth fy ngwaith tan fis Medi nawr. Tybed erbyn i fi ddod nôl a fydd holl staff awdurdod S4C wedi ymddiswyddo? Gobeithio na ddigwyddith unrhywbeth rhy gyffrous dros y deg diwrnod nesa ’ma!
Mae tymor difyr o’n blaenau pan ddaw’r ACau nôl o’u gwyliau, bydd y Llywodraeth yn ceisio sicrhau cyflawni holl addewidion cytunded Cymru’n Un cyn yr etholiad tra bydd dwy blaid y glymblaid yn ceisio cymeryd y clod am bob llwyddiant o’r cytundeb hwnnw yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad, a’r ddwy wrthblaid yn ceisio profi bod eu cynrychiolwyr yn San Steffan yn gwneud gwaith da dros Brydain yn y glymblaid yno er mwyn cael pleidleisiau iddyn nhw’u hunain fis Mai nesaf. Ar ben hynny, gallwn ni edrych ymlaen i glywed yn union pwy fydd yn cynrychioli pa etholaethau dros y pleidiau gwahanol yn yr hydref. Mae refferendwm ar bwerau deddfu llawn i ddod cyn mis Mawrth felly gallwn ni ddisgwyl clywed am ffurfio’r ymgyrchoedd Ie a Na yn fuan hefyd.
Fel y dywedodd cyd-weithiwr i fi -haf hesb, ond hydref byrlymus gobeithio!