Yn ôl blog Glyn Davies, ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg ar gyfer etholiad y Cynulliad yw Angela Jones-Evans (ie gwraig Dylan Jones Evans). Am amryw o resymau, mae’n anodd cael gafael ar y Ceidwadwyr Cymreig ar hyn o bryd i gadarnhau hynny ond does dim rheswm i amau gair Glyn Davies.

Am ergyd i David Melding. Pan oedd modd sefyll ar restr ranbarthol ac mewn etholaeth, fe safodd yn aflwyddiannus ym Mro Morgannwg ddwy-waith yn erbyn Jane Hutt ac wedi buddugoliaeth Alun Cairns yn etholiad San Steffan fis Mai, fe gynigiodd ei enw am y set etholaeth. Ond Angela Jones-Evans sydd wedi mynd â hi. Fe wnaiff les i’r nifer o fenywod sydd gan y Ceidwadwyr yn y Cynulliad os enillith hi’r sedd -un fenyw sydd gan y Ceidwadwyr yn y grwp cyfan ar hyn o bryd. Angela yw hi hefyd, Angela Burns cynrychiolydd Gollewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Wrth gynnig ei enw am yr etholaeth a gollodd pensaer maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ei hawl i fod ar frig rhestr rhanbarth Canol De Cymru? Cwestiwn nad ydym ni yma’n y Cynulliad yn gallu cael gafael ar ateb iddo, er trio cael gafael ar swyddfa’r wasg y Ceidwadwyr drwy’r dydd. Hyd yn oed os yw David Melding ar frig y rhestr, pe bai’r Ceidwadwyr yn ennill digon o seddau etholaethol yn y rhanbarth, byddai posibilrwydd na fyddai’r blaid yn ennill seddi rhanbarthol. Mae hynny’n rhagweld mis mêl y Ceidwadwyr yn San Steffan yn para hyd Mai nesaf, sydd efallai’n anodd dychmygu  -ond anos yw dychmygu’r Cynulliad heb David Melding!