Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards, sy’n eich gwahodd i noson arbennig ar Faes B eleni…
A fuoch chi mewn parti swigod erioed? Foam party yw’r term Saesneg yn ôl y sôn, ac mae’n rhywbeth sy’n hynod boblogaidd mewn llefydd fel Ibiza. Wel, fydd dim rhaid i unrhyw un fentro mor bell ag Ibiza’r haf yma am barti swigod, dim ond dod draw i Faes B nos Sadwrn 31 Gorffennaf, a chewch amser wrth eich bodd ynghanol y bybls – dim ond gobeithio y byddwn yn cael ychydig o dywydd Ibiza’n ystod yr wythnos!
Bydd rhai o selogion Maes B yn cofio partїon swigod y gorffennol, yn Nhy Ddewi ac ym Meifod. Gyda saith mlynedd wedi pasio ers yr un diwethaf, dyma benderfynu mai Glyn Ebwy fyddai’r lle i gael boddi mewn bybls unwaith eto. Noson ddawns yw nos Sadwrn ym Maes B gyda Clinigol, Haku, Tokin4wa, Cyrion, El Parisa a DJ Nia Medi. Taflwch ychydig o swigod ar ben y lein-yp yma, ac mae’n sicr o fod yn noson a hanner!
Dyma un o’r pethau gorau am yr Eisteddfod, na, nid y parti swigod ei hun – wel nid i mi beth bynnag! – ond yr amrywiaeth o bethau sydd i’w gweld a’u gwneud, nid yn unig yn y dydd o amgylch y Maes, ond hefyd gyda’r nos. O gyngherddau o waith Mozart i barti swigod, ac o Stomp y Steddfod i gala’r ifanc, mae ‘na rywbeth i bawb yn nalgylch yr Eisteddfod gyda’r nos.
Un noson sydd wedi’i chadarnhau’n eithaf diweddar yw’r noson arbennig a gynhelir yn Adeilad y Cyngor ym Mharc Bryn Bach – y maes carafanau – i gofio Iwan Llwyd, nos Iau 5 Awst. Byddwn yn cofio Iwan trwy gerdd, cân, stori a ffilm, yng nghwmni Emyr Lewis, Myrddin ap Dafydd, Geraint Lovgreen, Ifor ap Glyn, Twm Morys a Mei Mac. Barddas sy’n trefnu’r noson hon, ac mae’n rhan o weithgareddau Maes C. Rwy’n siwr y bydd nifer fawr o bobl yn awyddus i fynychu’r noson hon, er mwyn cofio un o’n beirdd mwyaf disglair, un a enillodd y Goron yn Eisteddfod Cwm Rhymni – ar dir Parc Bryn Bach – ugain mlynedd yn ôl.
Mae manylion y gweithgareddau gyda’r nos i gyd ar y wefan, ac wrth gwrs maen nhw hefyd i gyd yn y Rhaglen Swyddogol, sydd wedi’i chyhoeddi erbyn hyn a sydd ar gael ar y wefan, drwy’r linell docynnau ac mewn siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru. Mae’r Rhaglen yn brosiect helaeth a hir, ond mae’r ymateb mae’n ei chael bob blwyddyn yn hynod o wresog, ac felly, mae’n werth ei gwneud.
Ddechrau’r wythnos, byddwn yn cychwyn ar y gwaith o symud y swyddfa i lawr i Lyn Ebwy ar gyfer yr Eisteddfod. Mae hyn yn dipyn o waith, gyda rhai pethau’n dod o Gaerdydd, eraill o’r Wyddgrug, ac yna, pethau eraill sydd dim ond yn gweld golau dydd unwaith y flwyddyn, yn cael eu tynnu o’r storfa yn Llanybydder ar gyfer y Maes. Fe fyddech yn rhyfeddu faint o ailgylchu sy’n digwydd ar y Maes o flwyddyn i flwyddyn.
Wrth grwydro’r Maes yr wythnos ddiwethaf, mi es draw i’r Ganolfan Groeso ac i mewn i’r swyddfa lle mae’r gwerthwyr tocynnau’n gweithio. Y llynedd, roedd pawb sy’n gweithio i’r Eisteddfod wedi’u mesur yn sefyll yn erbyn un o’r waliau – yn union fel roedd rhieni’n ei wneud gyda phlant flynyddoedd yn ôl – a beth oedd yn dal i fod ar y wal, yn union yr un lle eleni? Y siart daldra! Er i’r panelau gael eu tynnu i lawr a’u storio dros y gaeaf, yr un rhai sy’n cael eu defnyddio’n y swyddfa, gan gael eu hail-godi’n union yr un ffordd y flwyddyn ganlynol. Ail-ddefnyddio ac ailgylchu go iawn!
Felly, mae’r pacio ar fin cychwyn; y rhestrau o bopeth sydd angen ei symud yn cael eu drafftio a’r bocsys yn cael eu selio ar gyfer y daith i’r Maes, ac ymhen pythefnos a hanner, bydd pawb yn dechrau cyrraedd y Maes ar gyfer Eisteddfod, a fydd, gobeithio, gyda’i pharti swigod, ei thraeth, ei meysydd chwarae a’i channoedd o weithgareddau ar gyfer pobl o bob oed, yn sicr o roi gwên ar wynebau miloedd o ymwelwyr wrth iddyn nhw dyrru draw i Lyn Ebwy am wythnos i’w chofio.