Mae’r Llywodraeth newydd gyhoeddi ei rhaglen ddeddfwriaethol at gyfer ei 10 mis olaf. Gan fod cyn lleied o amser cyn diwedd y tymor, dyw hi ddim yn syndod bod llai ar y rhaglen nag arfer. Mae bwriad i gyflwyno tri mesur ym maes tai ac addysg ac un gorchymyn (gas da fi’r gair LCO).

Yr hyn sy’n fy niddori i heddiw yw’r gorchymyn arfaethedig. Y bwriad yw i wneud cais am rym i ddeddfu ym maes caniatad tybiedig -hynny yw maen nhw am newid y drefn rhoi organau. Yn hytrach na disgwyl i bobol ymuno â rhestr o bobol sy’n fodlon rhoi eu organau i rywun arall ar ôl iddyn nhw farw, maen nhw am gymeryd yn ganiataol bod pobol am roi eu horganau oni bai eu bod nhw wedi dweud yn wahanol, gan gael caniatad y teulu.

Mae’r ymateb yn gymysg i’r cyhoeddiad. Babi’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart yw hwn, ac mae hi wedi bod yn benderfynol o fynd ati i gyflwyno caniatad tybiedig yng Nghymru beth bynnag mae unrhywun yn ei ddweud. Mae’r Ceidwadwr Jonathan Morgan yn erbyn deddfu’n llwyr ar hyn o bryd -nid am ei fod yn erbyn caniatad tybiedig ond am nad yw’n meddwl bod y system yn barod ar gyfer y newid eto. Mae mwy o fanylion o adroddiad y pwyllgor iechyd pan oedd Jonathan Morgan yn gadeirydd arno yma.

Yr hyn sy’n fy synnu i yw hyder y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd bod modd cael mesur ar y pwnc yma ymhen 10 mis. Pan holais i Carwyn Jones bore ma os oedd modd llunio gorchymyn a mesur o fewn y cyfnod hwn, dywedodd e y bydd hi’n dynn ond ei bod hi’n bosibl. Mae’n gwneud i fi feddwl bod Carwyn Jones yn tybio gormod am y caniatad gan San Steffan ac efallai heb ddysgu gwers gorchmynion y gorffennol. Cymerodd y gorchymyn lleiaf dadleuol erioed, y gorchymyn cig coch, ddwy flynedd i fynd drwy’r broses graffu yn San Steffan a Bae Caerdydd heb son am yr oedi anhygoel gyda’r gorchmynion ar yr iaith Gymraeg a’r amgylchedd. Mae’r gorchymyn tai yn dal yn gwbl fyw yn y cof fel y gorchymyn gymerodd hirraf i’w basio yn hanes gorchmynion. Beth sy’n gwneud i Carwyn Jones fod mor hyderus y tro hwn?

Rwy’n derbyn bod y ddwy ddeddfwrfa bellach yn deall y drefn orchmynion yn well wedi bod wrthi ers 2007 ond nid gorchymyn annadleuol mo’r gorchymyn ar ganiatad tybiedig. Fe fydd adroddiad y pwyllgor iechyd sy’n argymell i’r Cynulliad beidio â mynd ar hyd y llwybr hwn yn un rhwystr, heb sôn am ddelio â barn unigolion o fewn i’r pwyllgorau craffu -yma yn y Cynulliad a’r Pwyllgor Dethol yn San Steffan. Gallai’r gorchymyn hwn eto fod yn dalcen caled i’r Llywodraeth.