Mae’r pafiliwn pinc ar ei draed am y pumed tro, meddai Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol…

Fe gaeodd y cynllun mynediad am ddim; aeth y Pafiliwn i fyny a bydd seremoni’r Cyhoeddi’n digwydd yn Wrecsam ddydd Sadwrn.  Dipyn o wythos rhwng popeth!

Ar yr adeg yma o’r flwyddyn mae popeth yn digwydd ar unwaith, a pharhau i ddigwydd y bydd popeth rwan tan i’r Eisteddfod gychwyn!

Ddydd Sadwrn, Wrecsam fydd yn croesawu’r Eisteddfod gyda Gŵyl y Cyhoeddi – seremoni draddodiadol ond gyda thipyn o hwyl a sbri i’r teulu cyfan.  Bydd llwyfan perfformio wedi’i godi yn Sgwar y Frenhines yng nghanol tref Wrecsam, a bydd perfformwyr lleol yn ymddangos trwy gydol y dydd.  Ar Llwyn Isaf ger Neuadd y Dref, bydd nifer o stondinau gyda gweithgareddau o bob math ar gyfer y teulu cyfan – felly dipyn o ragflas o’r hyn sydd i ddod yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro y flwyddyn nesaf.

Prif fyrdwn dydd Sadwrn, wrth gwrs, yw seremoni’r Cyhoeddi, a bydd yr Orsedd yn gorymdeithio drwy dref Wrecsam a 14.00 ymlaen, gan gychwyn yn Llwyn Isaf.  Bydd hyd at fil o bobl yn gorymdeithio brynhawn Sadwrn, yn blant ysgol, bwysigion lleol, grwpiau cymunedol, ac wrth gwrs, yr Orsedd ei hun.

Yn dilyn yr Orymdaith, bydd y seremoni’n cael ei chynnal ar Llwyn Isaf, lle bydd Cerrig yr Orsedd wedi’u codi’n barod ar gyfer yr achlysur.  Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Aled Roberts, yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, Jim Parc Nest, ac unwaith y digwydd hyn, bydd y testunau’n gyheoddus ac ar gael i’w prynu ar ein stondin yn Llwyn Isaf, ac yna mewn siopau ar hyd a lled Cymru ac ar y we.

Mae un peth yn sicr, bydd aelodau’r Orsedd yn edrych yn hynod o drwsiadus.  Bu merched y Pwyllgor Llety wrthi’n ddiwyd yn smwddio’r gwisgoedd yn Neuadd y Dref neithiwr, a dyna lle y byddan nhw eto heno, yn rhoi trefn ar y gwyrdd, glas a’r gwyn yn barod ar gyfer dydd Sadwrn.  Mae cyfraniad gwirfoddolwyr fel y rhain yn amhrisiadwy i lwyddiant yr Eisteddfod, a rydym yn ddiolchgar iddyn nhw am roi’u hamser i’n helpu ni.

A chyn cloi, awn yn ôl i Flaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd i gael clywed am y pafiliwn yn cael ei godi.  Unwaith mae’r sgerbwd i fyny, mae’r croen pinc yn ei orchuddio, ac mae’r Pafiliwn mawr Pinc eiconig i fyny ac yn barod ar gyfer wythnos arall o gystadlu a mwynhau!

Rhyfedd yw meddwl mai dyma’r pumed tro i ni ddefnyddio’r Pafiliwn Pinc.  Abertawe oedd yr Eisteddfod gyntaf, ac rwy’n siwr ein bod i gyd yn cofio’r straeon yn y wasg am y peth!  Erbyn hyn wrth gwrs, mae’r Pafiliwn yn rhan greiddiol o’r Eisteddfod ac yn un o symbolau eiconig diwylliant yng Nghymru!

Jo Thomas, Cydlynydd yr Eisteddfod ar ran Cyngor Blaenau Gwent gafodd y fraint o bwyso’r botwm mawr i godi’r Pafiliwn ar ei draed eleni, ac roedd hi wrth ei bodd – fel mae’r llun yn ei ddangos!

Cawn gyfle i sôn rhagor am y Maes yr wythnos nesaf, ac yn y cyfamser, gobeithio y byddwch chithau – fel minnau – yn croesi bysedd am dywydd braf yn Wrecsam ddydd Sadwrn.