Taflenni ymgyrch Ie Dros Gymru (Llun Plaid Cymru)
Alwyn ap Huw oedd yr unig un i wneud cais swyddogol i’r Comisiwn Etholiadol i arwain yr ymgyrch ‘Na’.

Heddiw mae’r blogiwr, sydd fel arfer yn ysgrifennu dan yr enw Hen Rech Flin, yn esbonio pam ei fod wedi penderfynu pleidleisio ‘Ie’ wedi’r cwbwl…

Yr wyf eisoes wedi pleidleisio trwy’r post. Mi bleidleisiais Ie, ond mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi gwneud hynny gan ddal fy nhrwyn. Ers imi droi’n ddeunaw rhwng etholiadau i bob lefel o lywodraeth o’r cyngor plwy i Ewrop ac mewn amryfal refferenda, rwy’n amcangyfrif imi bleidleisio tua 46 o weithiau; ond nid ydwyf erioed wedi pleidleisio ar bwnc mor ddiflas, dibwys a dianghenraid a’r refferendwm yma.

Hwyrach bydd yn syndod i rai gwybod fy mod wedi rhoi’r groes yn y blwch Ie o gwbl; os edrychwch ar safle’r Comisiwn Etholiadol fe welwch fy mod i wedi fy nghofrestru yn ymgyrchydd swyddogol ar yr ochr Na!

Fel un sydd wedi ei gofrestru yn ymgyrchydd swyddogol ar ran yr ochr Na yr wyf yn cael gwario hyd at £100,000 i’ch perswadio chi i bleidleisio Na. Pe bai fy nghais i arwain yr ymgyrch Na wedi bod yn llwyddiannus mi fyddwyf wedi derbyn celc eithaf sylweddol o bwrs y wlad i’m cynorthwyo i’ch perswadio i bleidleisio Na, yn ogystal â chyfle i ymddangos ar y teledu a’r radio mewn darllediadau swyddogol tebyg i ddarllediadau etholiad, ac i ddewis pwy fyddai’n cael fod yn llefarydd swyddogol yr ymgyrch ar raglenni gan gynnwys Pawb a’i Farn a CF99.

Ond cwestiwn teg i’w ofyn yw – ‘Pam bod un sydd yn gefnogol i ymreolaeth i Gymru yn wneud cais i fod yn arweinydd yr ymgyrch na yn y lle cyntaf?’

Yr oeddwn wedi clywed y sïon bod mudiad Gwir Gymru am wrthod y cyfle i wneud cais am statws swyddogol. Ar ôl peint neu ddau roedd y syniad o roi proc yn eu llygaid trwy i genedlaetholwr wneud cais am y statws yn fy nghosi.

Mi anfonais gais i’r Comisiwn i arwain yr ymgyrch Na o dan y slogan Na! Dim Digon Da!

Peint neu ddim, pe bawn wedi ennill yr hawl i arwain yr ymgyrch, byddwn wedi mynd ati i ymgyrch dros yr achos gyda brwdfrydedd.

Mae ’na ddigon o resymau pam y dylai’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y refferendwm fod yn wrthun i genedlaetholwr.

Yr unig reswm y mae refferendwm yn cael ei gynnal o gwbl ydi oherwydd smonach Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’n rhoi’r hawl i’r Cynulliad deddfu, heb refferendwm, o dan system hynod drwsgl, ond yn mynnu refferendwm er mwyn lliflinio’r drefn; a hynny oherwydd bod rhaniadau o fewn y Blaid Lafur wedi adroddiad Comisiwn Richard. Pam ddylai Cenedlaetholwr bleidleisio o blaid tynnu’r Blaid Lafur allan o dwll o’i wneuthuriad ei hunan?

Bydd yr hyn sydd ar gael i Gymru ddatganoledig, os bydd pleidlais Ie dydd Iau, yn parhau i fod yn llai na’r hyn sydd ar gael i Gynulliad Gogledd yr Iwerddon a Senedd yr Alban. Ni fydd cyfle i ymgyrchu yn egnïol a gobeithiol am gyfartaledd a’r Alban a Gogledd yr Iwerddon am genhedlaeth arall, ysywaeth. Ond pe bai ymgyrch Na! Dim Digon Da wedi llwyddo, byddai cyfle i ddechrau ymgyrchu am Senedd digon da ddydd Gwener nesaf!

Mi bleidleisies i Ie yn y pen draw, oherwydd y byddai pleidlais Na wedi ei gyfrif yn un wrth-Gymreig yn yr hinsawdd bresennol. Rwy’n siomedig bod y mudiad cenedlaethol ddim yn ddigon hyderus i gefnogi ymgyrch Na! Dim Digon Da er mwyn hyrwyddo achos y genedl.