Yn yr ail ddarn hwn mewn cyfres o dri darn ar sefyllfa addysg Gymraeg yn ne-ddwyrain Cymru, Cydlynydd Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn y De-ddwyrain, Michael L N Jones sy’n pwyso a mesur blaenoriaethau addysg y rhanbarth….
Mae Caerffili yn awdurdod ar y ffin rhwng Gwent a Morgannwg. Yma, does dim sôn am ychwanegu at y nifer o ysgolion sy’n bodoli neu sydd ar y gweill, ond dyma awdurdod lle bydd cynlluniau sy’n hysbys ers peth amser yn cael eu gwireddu. Daw rhywbeth newydd yn hanes addysg Gymraeg i fodolaeth yn rhan o adeiladau yr hen Ysgol Gyfun Saesneg Sant Ilan, sef Ysgol Ganol lle bydd disgyblion ardal Caerffili ym mlynyddoedd 7.8 a 9 yn derbyn addysg uwchradd cyn symud ymlaen i Ysgol Cwm Rhymni i gwblhau eu gyrfa uwchradd Bl 10-13. Prinder lle yn Ysgol Cwm Rhymni yw’r rheswm am hyn. Fe fydd ysgolion canol yn agor maes o law – un i dderbyn plant o rannau uwch Cwm Rhymni a’r llall o Gymoedd Sirhywi a Chanol Cwm Ebwy. Ni fydd yr Ysgol Ganol yn llenwi adeiladau Sant Ilan. Addasir gweddill yr adeilad i greu safle newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili erbyn 2014. Bydd y datblygiadau hyn yn siwr o ddenu rhagor o blant yr ardal i addysg Gymraeg.
Ble mae’r angen amlwg am ddatblygiadau ym Mwrdeisdref Caerffili? Mae angen ysgol wedi ei lleoli un ai ym Medwas, Tretomos neu Fachen, a hefyd yn Rhisga sy’n cael ei gwasanaethu o Abercarn lle mae’r ysgol yn orlawn.
Yng Nghaerdydd rhwng 2000 a 2009, fe agorwyd 7 ysgol newydd, un ohonynt bellach yn ysgol ddwy ffrwd. At hyn, rydym wedi gweld ychwanegu ffrydiau at ysgolion Y Wern a Phwll Coch i’w gwneud yn ysgolion tair ffrwd. Eleni, y datblygiadau mawr fydd agor ysgol newydd ar gyfer Treganna wedi cymaint o helynt dros y blynyddoedd, a gweld Ysgol Uwchradd Bro Edern yn cyrraedd ei chartref parhaol.
Bydd ysgol newydd Treganna yn derbyn tair ffrwd, sef ychwanegiad o un i mewn i adeilad wedi cynllunio yn ofalus i osgoi rhoi’r argraff o adeilad rhy fawr i blant bach. Mae’r staff wedi cael cyfle i edrych ar yr adeiladau ac yn cytuno eu bod yn gyffrous. Golyga cael y Treganna newydd golli’r hen Dreganna a hefyd yr ategiad yn Ysgol Parc Ninian aeth o dan yr enw Tan-yr-eos er nad oedd yn ysgol annibynnol o Dreganna erioed. Bydd agor Treganna newydd yn golygu codi nifer y ffrydiau sydd ar gael yn y brifddinas i gyfanswm o 26.6 ffrwd (797 lle), er yn lleihau nifer yr ysgolion i 15 trwy gau Tan-yr-eos nad oedd erioed i fod yn barhaol.
O’r 7 ysgol newydd, mae pump yn llawn a thair yn gorfod gwrthod lle i blant sy’n ceisio, sef Glan Morfa, Penypil a Nant Caerau, ac mae RhAG yn pwyso am fwy o ddarpariaeth yn y tair ardal, ond heb lwyddo hyd yn hyn.
Bydd Bro Edern yn gadael eu cabanau dros dro ar safle Glantaf i feddiannu adeiladau cymharol fodern lle mae Ysgol Uwchradd Sant Teilo ar hyn o bryd. Bydd angen gwaith cynnal a chadw ar yr adeiladau ond wrth gwrs dim ond dwy flwyddyn fydd yn yr ysgol a gall y gwaith fynd rhagddo o’u cwmpas heb ormod o anghyfleusdra. Yn barod mae rhaid pwyso ar y sir i symud ymlaen i baratoi ar gyfer y bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg y bydd ei hangen yn 2020 i dderbyn y tair ffrwd na fydd Glantaf, Plasmawr a Bro Edern yn gallu’u derbyn yn y lle i 20 ffrwd sydd ar gael rhyngddynt. Derbyniwyd 690 plentyn i addysg gynradd llynedd, sef 23 ffrwd, ac fe fyddant yn gadael blwyddyn 6 ym mis Gorffennaf 2020.
Ym Mro Morgannwg, fe agorwyd dwy ysgol newydd yn 2011 ar ben yr estyniad i Ysgol Pen-y-garth yn 2010. Mae Dewi Sant yn Llanilltud Fawr a Nant Talwg yn Y Barri yn parhau i dderbyn plant ac yn amlwg yn hyfyw. Bydd Ysgol Sant Baruc yn cael ychwanegiad pan fydd yr ysgol Saesneg ar y safle yn symud i adeilad newydd ac yn gallu derbyn nifer uwch o blant. Y prif angen yn yr ardal yw adeilad newydd ar gyfer Ysgol Iolo Morgannwg, Y Bontfaen, lle nad oes digon o le ar gyfer y plant sydd am fynd yno.